Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwerthu Tân Gwyllt

Er mwyn gwerthu Tân Gwyllt i’r cyhoedd, mae’n rhaid i chi, yn gyntaf gael Trwydded Storio Ffrwydron.

Unwaith y byddwch wedi’ch trwyddedu i storio tân gwyllt, gallwch werthu tân gwyllt yn ystod yr amseroedd canlynol heb fod angen trwydded ychwanegol arnoch:

  • Diwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a’r tri diwrnod sy’n ei ragflaenu
  • Diwrnod Diwali a’r tri diwrnod sy’n ei ragflaenu
  • Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Hydref ac sy’n dod i ben ar 10 Tachwedd
  • Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 26 Rhagfyr ac sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr

Beth os fyddaf am werthu tân gwyllt yn ystod cyfnodau eraill?

Os ydych yn bwriadu darparu (neu arddangos ar gyfer darparu) tân gwyllt yn ystod unrhyw gyfnod arall o’r flwyddyn, bydd angen i chi gael Trwydded er mwyn darparu neu ddangos er mwyn Darparu Tân Gwyllt i Oedolion gan Dîm Safonau Masnach y Cyngor.

Cost y drwydded yw £500 a gallwch gael ffurflen drwy gysylltu â’r Adran Safonau Masnach.

Sut ydych chi’n storio ac yn gwerthu tân gwyllt yn ddiogel?

Mae’r maes hwn yn cael ei gynnwys yn Rheoliadau Ffrwydron 2014.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar storio a gwerthu tân gwyllt ar ei wefan. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys rhestr wirio asesiad risg.

Os nad oes gennych stordy sy’n cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer storio tân gwyllt, dylai tân gwyllt categori F2 a F3 gael eu storio oddi ar safle’r siop neu eu cadw naill ai:

  • Yn bell o’r ardal; gwerthu yn eu pecynnau cludiant caeedig mewn cwpwrdd atal tân, cynhwysydd neu mewn cawell addas, neu
  • Mewn cwpwrdd arddangos addas (mae maint yr ardal manwerthu yn pennu uchafswm faint o dân gwyllt y gellir eu storio ar lawr y siop.)

Beth yw’r cyfyngiadau oed o ran gwerthu tân gwyllt?

Mae Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015 yn gwahardd darparu tân gwyllt categori F4 i’r cyhoedd. Mae’r rheoliadau yn gwahardd darparu tân gwyllt categori F2 (defnydd y tu allan - mannau cyfyng) a chategori F3 (defnydd y tu allan - mannau agored) i unrhyw berson sydd o dan 18 oed. Mae’r rheoliadau’n gwahardd darparu tân gwyllt categori F1 (defnydd y tu fewn - party poppers ac ati sydd â bach iawn o sŵn a pherygl) i unrhyw berson sydd o dan 16 oed. Gwneir eithriad ar gyfer craceri Nadolig na ddylai gael eu darparu i unrhyw berson sydd o dan 12 oed. Mae capiau ar ynnau tegan wedi’u heithrio o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â thân gwyllt.

Nodyn: dylai’r labelu ar becynnau sparklers gynnwys y geiriau: “Rhybudd: peidiwch â’u rhoi i blant sydd o dan bump oed.”

Lle y mae tân gwyllt ar gyfer oedolion (categorïau F2 a F3) yn cael eu darparu neu eu dangos mewn unrhyw safle, mae’n ofynnol, yn ôl Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 i hysbysiad gael ei arddangos mewn lle amlwg ar y safle, nad sydd yn llai na 420 mm gan 297 mm (A3), â’r llythrennau ddim llai na 16 mm o uchder, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

MAE’N ANGHYFREITHLON I WERTHU TÂN GWYLLT CATEGORI F2 NEU GATEGORI F3 I UNRHYW UN SYDD O DAN 18 OED

MAE’N ANGHYFREITHLON I UNRHYW UN O DAN 18 OED FOD MEWN MEDDIANT O DÂN GWYLLT CATEGORI F2 NEU GATEGORI F3 MEWN MAN CYHOEDDUS

Pa fathau o dân gwyllt sydd wedi eu gwahardd?

Dim ond tân gwyllt sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Ewropeaidd, ag arnynt y bathodyn CE ac sydd wedi eu labelu’n gywir â manylion y gwneuthurwr a’r mewnforiwr all, yn gyfreithiol gael eu darparu i ddefnyddwyr.

Ni ddylai blychau o dân gwyllt gael eu rhannu neu eu gwerthu ar wahân.

Ni ddylai unrhyw dân gwyllt sy’n uwch na 120 desibel gael eu darparu i ddefnyddwyr.

Hefyd, wedi eu gwahardd, mae’r tân gwyllt canlynol:

  • olwyn awyr (
  • bangyr, bangyr sbarc neu fangyr dwbwl
  • cracer neidio (
  • troellwr a neidiwr daear
  • troellwr
  • roced fechan (mini rocket)
  • tiwb saethu sy’n cynhyrchu sŵn uchel fel ei brif effaith a/neu sydd â diamedr sy’n fwy na 30 mm
  • batri sy’n cynnwys bangyrs, bangyrs sbarc neu fangyrs dwbwl rs)
  • cyfuniad (ac eithrio olwyn) sy’n cynnwys un neu ragor o fangyrs, bangyrs sbarc neu fangyrs dwbwl 

Ni ellir darparu tân gwyllt a oedd yn cydymffurfio â BS 7114-2: Fireworks. Specification for fireworks bellach. Dim ond tân gwyllt ac arnynt y bathodyn CE ac sydd â chyfarwyddiadau yn y Saesneg y gellir eu gwerthu.

Rhagor o Wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch gwerthiant Tân Gwyllt, cysylltwch â’r Tîm Safonau Masnach ar 01685 725000.

Cysylltwch â Ni