Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cronfa Datblygiad Economaidd Cymunedol De Ddwyrain Cymru (SEWCED)
Mae menter gymdeithasol yn “fusnes a chanddo amcanion cymdeithasol yn bennaf sy’n ail-fuddsoddi’i arian dros ben at y diben hwnnw yn y busnes neu’r gymuned yn hytrach na chael ei yrru gan yr angen i gael yr elw mwyaf i randdeiliaid”. (Ffynhonnell: DTI & WAG, 2009)
Rhaglen Datblygiad Economaidd Cymunedol De Ddwyrain Cymru (SEWCED)
Buddsoddiad Ariannol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o Gyfalaf a Refeniw cyfunol â Chefnogaeth Datblygu Busnes i sbarduno cyfleoedd masnachu, twf a chynaliadwyedd sefydliadau’r trydydd sector i gyfrannu at greu cyfoeth yr economi leol ac adeiladu cymunedau hyfyw a llewyrchus.
Dyrannwyd Buddsoddiad Cyfalaf a Refeniw cyfunol gwerth dros £2m i CBS Merthyr Tudful o fis Tachwedd 2010 i fis Awst 2015 i roi hwb i sefydliadau’r trydydd sector i ddechrau’r daith fasnachol o adeiladu’u gweithgareddau masnachu.
Cyflawnodd y Rhaglen y canlynol:
- Crëwyd 30 o swyddi, cyfwerth â 21.5 swydd amser llawn
- Crëwyd 3 menter gymdeithasol newydd
- Cynorthwywyd 5 sefydliad
- Cefnogwyd 28 sefydliad yn ariannol
- Mabwysiadodd a gweithredodd 15 o sefydliadau gynlluniau gweithredu amgylcheddol
- Mabwysiadodd a gwellodd 13 o sefydliadau Strategaethau a Systemau Monitro Cydraddoldeb
Mae’r rhaglen wedi dod i ben bellach.