Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tendro

Cofrestru'ch diddordeb

Sut i gofrestru'ch diddordeb i ddarparu cynnyrch/gwasanaethau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. 

Os hoffech gofrestru fel darpar ddarparwr ar gyfer Cyngor Merthyr Tudful, cofrestrwch ar wefan GwerthwchiGymru.

Beth yw GwerthwchiGymru?

Mae gwefan GwerthwchiGymru yn rhestri holl dendrau’r sector gyhoeddus sydd wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru.

GwerthwchiGymru yw gwefan Gaffael Genedlaethol Cymru. Mae’n wefan Llywodraeth Cymru sydd yn ceisio cynorthwyo sefydliadau bach a chanolig i weithio’n llwyddiannus â’r Sector Gyhoeddus yng Nghymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ceisio hysbysebu unrhyw gontractau sydd dros £25,000.00 ar wefan GwerthwchiGymru.

Y broses dendro

Pan fydd Hysbysiad Contract yn cael ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, bydd darpar gyflenwyr yn derbyn hysbysiad o’r cyhoeddiad. Mae’n hollbwysig fod darparwyr cofrestredig yn cwblhau eu proffeiliau’n gywir a’u bod yn dethol categorïau gwaith cywir gan eu bod yn cael eu defnyddio er mwyn cysylltu â hysbysiadau contractau. Bydd hysbysiadau GwerthwchiGymru fel arfer yn cynnwys cyfeirnod tendr a dolen i eTenderWales onibai fod GwerthwchiGymru yn cael ei ddefnyddio fel blwch postio i dderbyn amcanbrisiau neu dendrau.  

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweinyddu’r broses dendro yn electronig drwy ddefnyddio system olrhain eTenderWales. Bydd angen i ddarpar ddarparwyr sicrhau eu bod wedi eu cofrestru ar y system er mwyn cyflwyno tendrau.

Mae system eTenderWales wedi’u rhannu’n 4 prif faes:

Atodiadau – cynnwys y Ddogfen Gwahoddiad i Dendro ac unrhyw ddogfennaeth berthnasol

  • Amlen Gymwysedd – cynnwys cwestoynnau dethol (fel arfer llwyddo/methu) – mae’r mwyafrif oi’r cwestiynau wedi’u nodi yn y gofynion caffael a’u bwriad yw asesu os bydd y Cyngor yn cytundebu darparwr posib
  • Amlen Dechnegol – cynnwys meini prawf ansawdd sydd yn berthnasol i bob gofyniad

Amlen Fasnachol – cynnwys Prisiau Msnachol

Paratoi’ch tendr

Mae’n bwysig, pan fyddwch yn paratoi’ch tendr eich bod yn darllen, yn ofalus yr holl ddogfenaeth y byddwch yn eu derbyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â eTenderWales. Er mwyn cynnal archwilaiadu a chydraddoldeb, ni fydd y Cyngor yn derbyn cyfathrebiadau a fydd yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r system, yn ystod y broses dendro.

Pan fyddwch yn paratoi’ch tendr, dylech ystyried y canlynol:

  • Atebwch bob cwestiwn yn llawn – peidiwch honni fod y Cyngor yn gwybod am eich busnes a’ch galluoedd. Ystyrir pob tendr yn ôl yr hyn a ddarperir, oddi fewn i’r dull gwerthuso sydd yn cael ei fanylu yn eich dogfennau tendr.
  • Darparwch yr holl wybodaeth.
  • Sicrhewch eich bod yn paratoi ac yn cwblhau’ch tendr mewn da bryd a’ch bod yn ei gyflwyno i’r Cyngor erbyn y dyddiad dynodedig ar y ddogfen dendr a’r system. Fel arfer, bydd tendrau’n cael eu hagor ar ddyddiad cau/amser y tendr ac ni fydd tendrau a fydd yn cael eu cyflwyno’n hwyr yn cael eu derbyn.

Gwerthuso Tendr

Yn dilyn derbyn cais am dendr, byddwn yn trefnu gwerthusiadau o’r tendrau sydd yn cael eu derbyn. Mae pob tendr yn cael eu gwerthuso drwy roi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd a dyfarnir sgôr o ran safon y tendr, yn unol â dulliau gwaith dogfennau’r tendr. Fel arfer, bydd pris yn cael ei werthuso ar sail y gost isaf drwy ddefnyddio fformiwla i gyfrifo’r cynigion uchaf. Fodd bynnag, defnyddir gwerthusiad pris arall fel cyfartaledd, cyfartaledd cul. Gallwn gysylltu â chi er mwyn cael eglurdeb ar ambell agwedd a/neu ofyn i chi ddod i gyfarfod er mwyn trafod eich cais. Gallwn hefyd ddewis ymweld â safle’ch busnes er mwyn asesu’ch gallu i fodloni gofynion y cytundeb.

Os byddwch yn ennill neu’n colli’ch tendr, byddwch yn gymwys ar gyfer cyfarfod briffio. Fel arfer, darperir hyn trwy lythyron eTenderWales. Bydd hyn yn gymorth i chi gynllunio ar gyfer ceisiadau’r dyfodol.

Rhyddid Gwybodaeth

Fel darparwr/tendrwr/partner/cwsmer/asiantaeth sydd yn darparu gwasanaethau i’r Cyngor, dylech fod yn ymwybodol o’n Gofynion a’r Cyfrifoldebau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i ddarparu mynediad i wybodaeth sydd yn cael ei chadw.

Un o ganlyniadau’r cyfrifoldebau statudol, newydd yw y gallai gwybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chadw am eich sefydliad fod yn destun datguddiad, mewn ymateb i gais, onibai ein bod yn penderfynu y gallai un o’r nifer o eithriadau statudol fod yn briodol.

Cydweithio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cydweithio ag amryw o sefydliadau. Rydym yn cyrchu trefniadau Cymreig a ddarperir gan Wasanaethau Masnachol Llywodraeth Cymru a fframweithiau eraill a ddarperir gan Gwasanaethau Masnachol y Goron, Sefydliad Pryniant  Eastern Shire (ESPO) ac ati.

Ar lefel rhanbarthol, rydym yn cydweithio â nifer o awdurdodau cymdogol er mwyn darparu amryw o brosiectau ar y cyd ac rydym yn gweithio ag awdurdodau rhanbarthol De Ddwyrain Cymru. Rydym yn cynorthwyo i Gynhyrchu Arbedion Sylweddol ac Effeithlonrwydd ac yn Rhannu’r Ymarfer Gorau.

Cymorth

Gall Busnesau Lleol dderbyn cymorth drwy Ganolfan Fentergarwch Merthyr Tudful (CMMT).