Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ardaloedd Adnewyddu

Prif ddiben yr Ardaloedd Adnewyddu yw gwella amodau byw mewn ardaloedd y mae angen eu hadfywio. Mae’r sail statudol ar gyfer Ardaloedd Adnewyddu wedi’i osod yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, yn ôl addasiadau Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002.

Er mai gwella tai yw’r prif ffocws, mae Ardaloedd Adnewyddu’n darparu buddion amgylcheddol sylweddol, newid cymdeithasol ac economaidd positif ac yn aml yn rhoi hwb i hyder preswylwyr a buddsoddwyr.

Mae’r penderfyniad i ddatgan Ardal Adnewyddu fel arfer yn deillio o dystiolaeth a gasglwyd o ganlyniad i sampl o gyflwr stoc ac arolwg amgylcheddol. Mae tystiolaeth arall hefyd yn sylweddol, er enghraifft lefelau cyflogaeth ac iechyd, a fydd yn dylanwadu ar safle ardal o ran aml amddifadedd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi datgan tair Ardal Adnewyddu ffurfiol ers 2001:

  • Ardal Adnewyddu Ynysowen: Yn weithredol o fis Ebrill 2001 – Mawrth 2011
  • Ardal Adnewyddu Dowlais: Yn weithredol o fis Medi 2003 – Awst 2013
  • Ardal Adnewyddu Bedlinog a Threlewis: Yn weithredol o fis Mai 2011 – Ebrill 2014 (gydag opsiwn i ymestyn)

Rheolir yr Ardaloedd Adnewyddu gan Dîm Adnewyddu Tai y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful a gellir cysylltu â’r tîm dros y ffon neu drwy e-bost gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon.

Mae’r Tîm Adnewyddu Tai yn cyflwyno ceisiadau blynyddol am arian i Lywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiectau arfaethedig yn yr Ardaloedd Adnewyddu. Ers 2001, mae’r Tîm wedi llwyddo yn ei geisiadau am dros £19 miliwn, sydd wedi cymorthdalu a gan amlaf wedi trosoli tua £70 miliwn o fuddsoddiad trydydd sector yn yr Ardaloedd Adnewyddu.

Mae’r prosiectau a gynhaliwyd yn yr Ardaloedd Adnewyddu yn cynnwys:

  • Nifer o Gynlluniau Adfer Grŵp i dros 500 o gartrefi preifat
  • Grantiau unigol: gan gynnwys Grantiau Cartrefi Gwag, Grantiau Cartrefi Cysurus, Grantiau Gwella, Grantiau Cymorth Adfer Cartrefi
  • Cynlluniau gwella’r amgylchedd – darparu meysydd parcio cyhoeddus, tirlunio, ffensys, goleuadau stryd, mesurau diogelwch cartref
  • Cynlluniau priffordd a lleddfu traffig: darparu rhwystrau igam-ogamu, bolardiau, parcio oddi ar y stryd

Ers 2011 mae lefel yr arian gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng yn sylweddol, tuedd sy’n debygol o barhau yn y dyfodol. Am y rheswm hwn mae’n anodd cynllunio prosiectau’r dyfodol yn gadarn.

Os ydych yn byw yn ward Dowlais neu ward Bedlinog a hoffech wybod rhagor am brosiectau arfaethedig neu’n dymuno cynnig eich prosiectau’ch hun, cysylltwch â ni.