Ar-lein, Mae'n arbed amser
Materion Ariannol
Gall yr hinsawdd economaidd heriol fod hyd yn oed yn galetach os ydych chi’n profi problemau iechyd ac iechyd meddwl neu yn paratoi i ddechrau hyfforddiant neu gyflogaeth newydd.
Hawliau Lles
Y mae’n bwysig cofio fod yna Gynghorwyr Hawliau Lles ymroddedig, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio i’r Lleng Brydeinig Frenhinol , a all eich helpu chi. Maen nhw’n sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth a’r buddion ariannol y mae gennych hawl iddynt a hefyd i’ch helpu chi i reoli eich arian.
Am ragor o wybodaeth ewch i Adran Newidiadau Budd-dal <https://www.merthyr.gov.uk/resident/housing-benefit/>ar y wefan neu ffoniwch: 01685 725000
Y Dreth Gyngor a Budd-daliadau Tai
Er mwyn gwneud cais neu gyfrifo a ydych yn gymwys am gymorth, defnyddiwch ein cyfrifiannell hawliadau.
Tlodi Tanwydd
Os ydych yn pryderu am y gost o wresogi eich cartref, ffoniwch 01685 725000. Gallwch hefyd gysylltu â Nest ar 0808 808 2244 neu ymweld â NEST. Cynllun Llywodraeth Cymru yw Nest, sy’n gweithio i wneud cartrefi Cymru yn gynhesach ac yn llefydd mwy ynni-effeithlon i fyw ynddynt.
Prydau Ysgol Am Ddim a Lwfans Dillad
Gallwch gael cyngor am gymhwyster a gwneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim ar-lein.
Bathodyn Glas
Edrychwch ar fanylion ar gymhwyster a sut i wneud cais am Fathodyn Glas.
Cyngor i Ddefnyddiwr
Gall preswylwyr sy’n credu bod torcyfraith wedi digwydd o ran eu hawliau fel defnyddwyr, ffonio Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 fel eu man cyswllt cyntaf os ydyn nhw’n profi anawsterau gyda nwyddau, gwasanaethau, credyd neu logi, ble y byddant yn derbyn cyngor cychwynnol ar eu problemau.
Gellir hefyd cael cyngor cyffredinol ar dudalen Cyngor i Ddefnyddwyr
Gwasanaeth Lles Cyn-filwyr
Mae’r Gwasanaeth Lles Cyn-filwyr (VWS) yn rhoi cefnogaeth i gyn-filwyr, y rheini sy’n gymwys i hawlio pensiwn y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chynlluniau Iawndal a’r sawl sy’n dibynnu arnynt. Ffocws y gwasanaeth yw darparu cymorth yn dilyn newid mewn sefyllfa a allai fod wedi arwain at angen lles, fel gadael y fyddin a newidiadau sy’n effeithio ar incwm neu arian. Mae gweithwyr achos VWS yn cynnig cymorth proffesiynol un i un ac arweiniad dros y ffôn, neu os fydd angen, ymweliad â’r cartref.
Ffoniwch 0808 1914218 neu e-bostio veterans-uk-vws-south@mod.uk i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.
Cronfa George Purse
Mae’r gronfa hon yn darparu grantiau i gefnogi anghenion lles cyn-filwyr sy’n byw yn Ne Cymru ac sydd ag angen gofal seibiant, gwyliau lles a chyfnod gwella.
Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth Y Lleng Brydeinig Frenhinol drwy ffonio 0808 802 8080 neu drwy gysylltu â SSAFA ar 020 2038 3852
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Gall Y Lleng Brydeinig Frenhinol ddarparu amrywiaeth o grantiau i bobl yn y fyddin a chyn-filwyr a’r sawl sy’n dibynnu arnynt sy’n dioddef yn ariannol gan gynnwys y rheini sydd ag angen cymorth ar frys i’w tywys drwy argyfwng dros dro, fel digartrefedd.
Gellir gweld gwybodaeth bellach yma: Y Lleng Brydeinig Frenhinol
SSAFA
Elusen y Lluoedd Arfog yw SSAFA sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Maen nhw’n cynnig gwasanaeth i helpu gyda phrynu Nwyddau i’r Cartref. Os ydych chi’n Gyn-filwr ac ag angen eitemau cartref hanfodol, yn cynnwys nwyddau gwyn a brown, yna gall eu gwirfoddolwyr eich helpu chi i gael gafael arnynt. Ewch i SSAFA <https://www.ssafa.org.uk/>