Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rheoliadau Cyfrifon Ac Archwilio (Cymru) 2014 – Hysbysiad

Mae’n ofynnol yn ôl Rheoliad 10(1) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) fod Swyddog Cyllid Cyfrifol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn arwyddo a dyddio’r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cynrychioli safbwynt gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi, ac o incwm y corff hwnnw a’i wariant ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau bod hyn yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2022.

Nid yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi arwyddo ac ardystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022. Yn sgil pandemig cyfredol COVID-19, cafodd y paratoad o’r datganiad o gyfrifon ei oedi.

Cysylltwch â Ni