Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hysbysiad o Hysbyseb Archwilio 2021-22

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Archwilio Cyfrifon Hysbysiad o Bennu Dyddiad ar Gyfer Gweithredu Hawliau Etholwyr Hysbysiad yn unol â Adrannau 30 a 31 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Bydd copïau o gyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 ar gael i’w harchwilio yn Adran Cyllid, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful rhwng dydd Gwener 5 Awst 2022 a dydd Gwener 2 Medi 2022 (bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener) rhwng 8.30 a.m. a

1.00 p.m. a 2.00 p.m. a 5.00 p.m. (4.30 p.m. ddydd Gwener). Gall unrhyw un sydd â diddordeb archwilio a gwneud copi o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthnasol.

Ddydd Llun 5 Medi 2022 am 9.00 a.m., bydd yr Archwilwyr Allanol, Archwilio Cymru, ar gais unrhyw Etholwr Llywodraeth Leol yn ardal y Cyngor, yn rhoi cyfle i’r Etholwr neu ei gynrychiolydd, i ofyn cwestiynau am y cyfrifon, a gall unrhyw Etholwr neu gynrychiolydd o’r fath ddod gerbron yr Archwilwyr i gyflwyno gwrthwynebiad i’r

cyfrifon. Mae’n rhaid cyflwyno rhybudd ysgrifenedig o unrhyw wrthwynebiad o’r fath i Derwyn Owen, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ. Ar yr un pryd, dylid anfon copi o’r rhybudd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn y cyfeiriad isod.

E.Cooper, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful , Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Cysylltwch â Ni