Ar-lein, Mae'n arbed amser

Panel Heddlu a Throseddu De Cymru

Newidiodd y ffordd y mae’r polisi heddlu wedi’i ffurfio o fis Tachwedd 2012 pan gafodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei benodi ar gyfer pob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a benodwyd i Heddlu De Cymru yn gyfrifol am bennu cyfeiriad plismona yn Heddlu De Cymru yn ogystal â chefnogi gweithgareddau diogelwch cymunedol ehangach ar draws yr ardal.

Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Panel)

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac yn cydbwyso perfformiad y Comisiynydd ac yn cefnogi’r Comisiynydd fel cyfaill beirniadol.

Panel Heddlu a Throseddu’n craffu’r Comisiynydd nid yr Heddlu. Rôl y Comisiynydd yw craffu’r Heddlu. Rôl y Panel yw craffu perfformiad y Comisiynydd i sicrhau tryloywder.

Aelodau Panel Heddlu a Throseddu De Cymru

Yn ardal Heddlu De Cymru daw aelodau’r Panel o bob un o’r saith awdurdod lleol yn yr ardal. Mae dau aelod cyfetholedig annibynnol ar y Panel hefyd.

Yr awdurdodau lleol yw:

 Y ddau aelod Annibynnol Cyfetholedig yw:

  • Mr Gareth Chapman
  • Sarah James

Beth Panel Heddlu a Throseddu De Cymru yn ei wneud

Mae rôl y Panel yn cynnwys grymoedd i:

  • adolygu drafft y Cynllun Heddlu a Throseddu a chynnig argymhellion i’r Comisiynydd y mae’n rhaid eu hystyried;
  • adolygu adroddiad blynyddol y Comisiynydd a chynnig argymhellion mewn cyfarfod cyhoeddus y mae’n rhaid i’r Comisiynydd fynd iddo;
  • ymdrin â chwynion am y Comisiynydd;
  • galw ar y Comisiynydd i fynd i gyfarfod y Panel i ateb cwestiynau;
  • rhoi feto ar braesept arfaethedig y Cyngor gyda mwyafrif o ddau drydydd;
  • rhoi feto ar ymgeisydd arfaethedig y Cyngor am Brif Gwnstabl gyda mwyafrif o ddau drydydd; a phenodi Comisiynydd dros dro pan fo’r Comisiynydd yn y swydd yn methu a’i gwneud, yn ymddiswyddo neu’n cael ei ddatgymhwyso.

Dogfennau Cefnogi ar gyfer Panel Heddlu a Throseddu De Cymru

Cwynion

Yr awdurdod priodol ar gyfer cwynion yn erbyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yw Panel Heddlu a Throseddu De Cymru.

Bydd y Panel yn ymdrin â chwynion lefel isel yn erbyn y Comisiynydd neu ei Ddirprwy. Dylid cyfeirio unrhyw broblemau difrifol i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Mae’r Panel yn gyfrifol am gofnodi cwynion a materion ymddygiad yn erbyn y Comisiynydd neu ei Ddirprwy ar y cam cyntaf ac am gyfeirio unrhyw gwynion sy’n honni troseddu i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu. Pan nad yw cwynion yn honni troseddu, mae’r Panel yn gyfrifol am ymdrin â’r cwynion hyn a’u datrys yn anffurfiol. Bydd y Panel hefyd yn ymdrin â chwynion troseddol neu faterion ymddygiad yn erbyn y Comisiynydd a’i Ddirprwy a gaiff eu cyfeirio’n ôl iddo gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Os oes gennych gwyn yn erbyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru neu gwestiwn am y Panel, cyflwynwch eich cwyn yn ysgrifenedig i’r swpcp@merthyr.gov.uk

Panel Heddlu a Throseddu De Cymru
dan ofal Adran Gwasanaethau Democratig
Merthyr Tudful Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell
Merthyr Tudful, CF47 8AN

SWPCP Reports Relating to the Commissioner's Proposed Precept:

SWPCP Reports Relating to the Commissioner's Annual Report:

SWPCP's Expenses and Allowances 

South Wales Police and Crime Panel Annual Reports

Fideo

SWPCP - Cyflwyniad y Dirprwy Gomisiynydd - Trais yn erbyn menywod