Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fflyd

Yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cyfnewid 6 cerbyd â cherbydau Trydan ar gyfer Parcio, Ailgylchu a Thechnoleg Gwybodaeth ac wedi archebu 7 yn rhagor ar gyfer glanhau'r stryd ac un cerbyd “cyffredinol” a fydd yn cyrraedd yn y 6-12 mis nesaf. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cyflenwad trydan newydd gan Western Power Distribution ar gyfer Uned 5 ac Uned 20 er mwyn cyflawni gofynion gwefru trydan yn y dyfodol.

Pan fyddant yn weithredol, byddwn yn gosod sawl gwefrydd trydan er mwyn darparu’r seilwaith i wefrio’n fflyd o gerbydau gan gynnwys cerbydau HGV a cherbydau arbennig. Mae hyn i gyd yn bosibl trwy gymorth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (GYLlC,)  y Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OLEV, OLEZ) a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) sydd wedi cynnig grantiau ariannol a chymorth logisteg i gyflymu’r newid i Fflyd garbon niwtral.

Yma, yn y Cyngor, mae’n tîm gweithrediadau fflyd wedi prynu 4 x Cerbyd Trydan (EV) ac mae 4 yn rhagor yn cael eu cyflenwi erbyn mis Medi eleni.  Dyma un o’r nifer o ffyrdd y gallwn ddyfod yn garbon niwtral erbyn 2030. Er mwyn canfod rhagor am gerbydau trydan, cliciwch yma: MTCBC’s fleet of vehicles set to go electric! | Merthyr Tydfil County Borough Council

Cysylltwch â Ni