Ar-lein, Mae'n arbed amser

A Allwch Chi Fod Yn Aelod O Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?

Ar hyn o bryd, mae Merthyr Tudful yn ceisio recriwtio un Aelod Annibynnol ar gyfer Pwyllgor Safonau’r Awdurdod.

Dyma’r ffioedd am fynychu’r cyfarfodydd:

Aelod Annibynnol:

  • £210.00 (4 awr a throsodd);
  • £105 (hyd at 4 awr);
  • at hynny, bydd gan yr unigolyn a benodir yr hawl i gostau teithio am fynychu cyfarfodydd.

Yn anffodus, yn ôl y gyfraith, NID yw’r bobl ganlynol yn medru bod yn Aelodau Annibynnol:

  • Cynghorydd neu Swyddog (neu unigolyn sy’n briod neu’n bartner sifil i Gynghorydd neu Swyddog) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, unrhyw Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol arall, Awdurdod Tân, Awdurdod Parc Cenedlaethol, neu Gyngor Cymuned/Tref;
  • Cyn-gynghorwyr neu Gyn-swyddogion a fu’n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyn-gynghorwyr neu Gyn-swyddogion a fu’n rhan o unrhyw Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol arall, Awdurdod Tân neu Awdurdod Parc Cenedlaethol, a hynny tan eu bod wedi gadael eu rôl fel Cynghorydd/ Swyddog o’r awdurdodau hynny am o leiaf blwyddyn.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, mae croeso ichi gysylltu â Carys Kennedy, Swyddog Monitro’r Awdurdod, ar 01685 725454.

Gallwch chi hefyd gael copïau o’r ffurflen gais a phapurau cysylltiedig gan y Gwasanaethau Democrataidd yn y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN (01685 725284).

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 4 Awst 2023

Ffurflenni cais wedi'u llenwi i'w dychwelyd erbyn dydd gwener, 4 Awst 2023 fan bellaf i'r Gwasanaethau Democrataidd, Canolfan Ddinesig, Castle Street, Merthyr Tudful, CF47 8AN neu drwy e-bost i democratic@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni