Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Bydd Etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn digwydd 2 Mai 2024.   

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio'n bersonol ar gyfer yr etholiad hwn.

 Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal trwy chwilio isod y wefan Dewis Fy NghHTh.

Dyddiadau Allweddol

  • Caiff cardiau pôl eu cyflwyno yn ystod wythnos olaf mis Mawrth 2024
  • Dyddiad cau cofrestru i bleidleisio – Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
  • Dyddiad cau i wneud cais am  bleidlais bost – 5pm Ddydd Mercher 17 Ebrill 2024
  • Dyddiad cau i wneud cais am  bleidlais ddirprwyol (nid pleidlais bost ddirprwyol) - Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
  • Dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr - Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
  • Gallwch wneud cais electoral@merthyr.gov.uk am bleidlais ddirprwyol ar frys hyd at  5pm ar ddiwrnod etholiad ond dim ond o dan amgylchiadau eithriadol
  • Bydd y Cyfri ar gyfer Etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn digwydd Dydd Gwener 3 Mai 2024

Hysbisiad

Gall preswylwyr sydd heb gofrestru neu sydd angen cymorth, gysylltu â Thîm Etholiadau’r Cyngor ar 01685 725284 neu electoral@merthyr.gov.uk

Am holl ymholiadau i’r wasg a’r cyfryngau, e-bostiwch corporate.communications@merthyr.gov.uk