Deddfwriaeth Gwarchod Data, gan gynnwys GDPR
Bydd y Tîm Derbyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn defnyddio’r data a rhoddwyd ar a ffurflen hon er mwyn darparu lle mewn ysgol ac i rannu efo ysgolion perthnasol.
Mae’n bwysig i hysbysu unrhyw newidiadau i wybodaeth peronol, er mwyn sicrhau bod y gwybodaeth yn aros yn gywir ac yn gyfoes i’w ddanfon os gwelwch yn dda.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymrwymedig i gynnal eich hawliau preifatrwydd. Dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio’ch gwy- bodaeth bersonol, darllenwch hysbysiadau preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan (https://www.merthyr.gov.uk/council/ data-protection-and-freedom-of-information/privacy-notices/?lang=cy-GB&).
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech wybod mwy am gydymffurfiaeth diogelu data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data ar 01685 725329 neu data.protection@ merthyr.gov.uk Tystiaf fod yr wybodaeth rydw i wedi’i rhoi’n gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth/cred a deallaf y gall unrhyw wybodaeth gam neu sy’n camarwain yn bwrpasol annilysu’r cais ac arwain at dynnu allan y cynnig o le ysgol i fy mhlentyn.
Pan fo rhieni’n rhoi gwybodaeth gam yn fwriadol i gael lle i’w plentyn/plant mewn ysgol arbennig na fyddai hawl ganddynt iddo fel arall, gallant fod yn euog o drosedd dan Adran 5(b) Deddf Anudonedd 1911. Bydd unrhyw gais a dderbynnir dan y fath amgylchiadau’n cael ei dynnu allan."