Ar-lein, Mae'n arbed amser

Terfyn cyflymder o 20mya i’w ymestyn i Ffordd Aber-fan.

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Mai 2019
20mph

Yn dilyn dwy rownd o ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y Cyngor yn ymestyn y terfyn cyflymder cyfredol o 20mya rhwng Ysgol Ynysowen ac Ysgol Rhyd Y Grug.

Cafodd cam un o’r ymgynghoriad ei gynnal yn hydref 2018, pryd y gofynnwyd i breswylwyr ddweud wrthym am y problemau y maent hwy’n eu profi ynghylch llif traffig, tagfeydd traffig a chyflymder. Rhoddwyd cyfle iddynt wneud argymhellion am sut yr oeddent hwy’n tybio y gallai’r problemau gael eu datrys.

Ym mis Medi’r un flwyddyn, bu Swyddogion o’r Cyngor a Chynghorwyr y Ward yn bresennol ac yn gwrando mewn sesiwn ymgysylltiol yng Nghanolfan Gymunedol Aber-fan lle y cafodd aelodau o’r cyhoedd wahoddiad i fod yn bresennol a chael dweud eu dweud.

Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, cyflwynodd Swyddogion dri opsiwn i’w hystyried a gafodd eu cyflwyno mewn ymgynghoriad cyhoeddus yng ngwanwyn 2019.

Cwblhawyd 152 arolwg. Er mai opsiwn B oedd yr un a ffafriwyd gyda 30.3% o’r pleidleisiau, dywedodd 32.4% o’r ymatebwyr nad oeddent yn cytuno ag unrhyw un o’r argymhellion. O ganlyniad, ni fydd CBS Merthyr Tudful yn gweithredu unrhyw un o’r argymhellion; yn hytrach, bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei ymestyn ymhellach ar hyd Ffordd Aber-fan. 

Bydd gorchymyn traffig yn awr yn cael ei roi yn ei le a bydd y cyfyngiad yn cael ei weithredu yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y manylion yn cael eu rhannu unwaith y byddant ar gael.

Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb i’r arolwg neu a ddaeth i’r sesiwn yng Nghanolfan Gymunedol Aber-fan. Cafodd eich adborth a’ch sylwadau eu gwerthfawrogi’n fawr.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni