Ar-lein, Mae'n arbed amser

4 diwrnod i fynd: tir ysgolion a meysydd chwarae ledled Merthyr Tudful i fod yn ddi-fwg o 1 Mawrth

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Chw 2021
mathew-macquarrie-lzcKZlVPYaU-unsplash

Mae heddiw yn nodi dim ond 4 diwrnod hyd nes y cyflwynir deddfau newydd i wneud mwy o leoedd yng Nghymru yn ddi-fwg.

Mae'r deddfau a gyflwynir ledled Cymru ar 1 Mawrth, yn adeiladu ar y gwaharddiad ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, gan amddiffyn mwy o bobl rhag mwg ail-law niweidiol a helpu'r rheiny sydd am roi'r gorau iddi.

Bydd yn golygu y bydd tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal dydd plant a gwarchod plant a thir ysbytai, yn ddi-fwg. Gallai unrhyw un sy'n cael ei weld yn torri'r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn, a fydd yn dad-normaleiddio ysmygu ac yn lleihau'r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf – gan arbed bywydau yn y pen draw.

Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi cael eu hysgogi i roi'r gorau i ysmygu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, a'r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn annog hyd yn oed mwy o bobl i wneud hynny. Y ffordd orau o roi'r gorau i ysmygu am byth yw trwy dderbyn cymorth wrth ei wneud.

Dywed Prif Weithredwr ASH Cymru, sefydliad sydd ar genhadaeth i gyflawni Cymru ddi-fwg, Suzanne Cass, "Mae'r rhai sy'n dechrau ysmygu cyn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o barhau i ysmygu o'u cymharu â'r rhai sy'n dechrau yn ddiweddarach mewn bywyd, ac maent yn fwy tebygol o ddod yn ysmygwyr trymach.

"Ers y pandemig COVID-19, mae wedi dod yn bwysicach nag erioed annog ymddygiad iach o gwmpas plant a lleihau'u cysylltiad â mwg ail-law niweidiol."

Anogir y rheiny sydd am roi'r gorau i ysmygu i ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim GIG Cymru, Helpwch Fi i Stopio, ar 0800 085 2219 neu www.helpafiistopio.cymru er mwyn cael cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth am ddim i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu.

Llun gan Mathew MacQuarrie ar Unsplash

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni