Ar-lein, Mae'n arbed amser
Daw 40 o Blant i Ofal yr Awdurdod Lleol Bob Wythnos
- Categorïau : Press Release
- 16 Ion 2020
Mae gwybodaeth a gasglwyd oddi wrth bob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol Cymru yn cadarnhau fod yna ar gyfartaledd ledled Cymru, 40 o blant yn dod i mewn i ofal bob wythnos. I’r rhan fwyaf ohonynt, y rheswm dros ddod i mewn i ofal yw yn sgil cam-drin neu esgeulustod.
Fel pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dibynnu ar Ofalwyr Maeth i gefnogi’r rhan fwyaf o’r plant mewn gofal drwy leoliadau dros dro neu hir dymor. Gyda bod plant newydd yn dod i mewn i ofal bob mis mae yna wir angen recriwtio Gofalwyr Maeth ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, “Rydym yn amcangyfrif fod angen 25 o Ofalwyr Maeth i gael eu recriwtio o bob rhan o Ferthyr Tudful i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n dod i mewn i’n gofal.”
Ychwanegodd, “Buaswn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am fod yn Ofalwr Maeth i ddod ymlaen a siarad â ni heddiw. Gallech chi wneud gwir wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn ein cymuned.”
Gall bron unrhyw un ddyfod yn ofalwr maeth. Yn fwyaf pwysig, bydd angen bod gennych le yn eich cartref, amser yn eich bywyd a’r ymrwymiad i ofalu ar ôl plentyn.
Bydd noson wybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn dyfod yn Ofalwr Maeth yn digwydd ddydd Iau 30 Ionawr 2020.
Mae ‘Darganfod am Faethu’ yn gyfle i ddeall sut beth yn union yw bod yn ofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bydd gofalwyr maeth profiadol ac aelodau o’r tîm cefnogi maethu yno i ateb cwestiynau a chynnig cyngor.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb alw mewn am sgwrs rhwng 4.00pm a 7.00pm yng Nghanolfan Soar. Digwyddiad hamddenol ydyw, felly does dim angen archebu apwyntiad ymlaen llaw.
Neu, mae llawer o wybodaeth ar gael yma www.fostercwmtaf.co.uk