Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fideo animeiddiedig yn cyflwyno neges entrepreneuriaeth

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Gor 2020
Community Enterprise video

Mae Menter Gymunedol Merthyr Tudful yn siop un-stop ar gyfer pobl sydd â syniadau busnes newydd, gan ddarparu pecyn cymorth cyflawn i’w helpu i wireddu’u breuddwydion.

Wedi’i ariannu ar y cyd gan y Rhaglenni Pontydd i Waith 2 a Sgiliau Gwaith i Oedolion 2, datblygwyd y Fenter Gymunedol i ysgogi menter ynghanol y  cymunedau lleol.

Mae’r rôl wedi’i hymgorffori yn Nhîm Cyflogadwyedd y Cyngor ac mae ganddo’r fantais o allu galw ar gefnogaeth gan ystod eang o gynlluniau cyflogadwyedd fel Cymunedau ar gyfer Gwaith; Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy; ac Anogaeth, Paratoi a Ffynnu (NET) etc.

Dywedodd Elliott Evans, y Swyddog Mentrau Cymunedol: “Deilliodd y syniad am y fideo o sgwrs a gawson ni wrth edrych ar ffyrdd o hyrwyddo mentrau cymunedol drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Fe gawson ni’r syniad o greu fideo hyrwyddol wedi’i animeiddio a fyddai, yn syml iawn, yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd eisiau cychwyn ei fusnes ei hun.

“Trwy ddefnyddio animeiddiad, roedden ni’n teimlo bod hyn yn dileu’r stigma fod busnes a menter ychydig yn frawychus ac yn fygythiol ac mai dim ond rhai pobl sy’n gallu cychwyn eu busnes eu hunain. Gall unrhyw un fod yn entrepreneur!

“Mae’r fideo hefyd yn caniatáu inni dynnu sylw at y “dull meddal” a ddefnyddiwn gyda mentrau cymunedol - o sgwrs gyflym mewn caffi, i gyngor gan un o’r aelodau sy’n cynnig cymorth i fentrau cymunedol.”

Dyluniwyd a chynhyrchwyd y fideo gan un o lwyddiannau’r prosiect ei hun. Dechreuodd Sarah Leanne Hicks ei busnes ei hun, sef Merthyr Media, gyda chefnogaeth y Tîm a MTEC.

Mae Merthyr Media yn gweithredu o’r Redhouse ac yn darparu gwasanaeth cyfryngau cyflawn ar gyfer busnesau newydd a sefydledig megis dylunio gwefan, ffotograffiaeth, cynhyrchu fideo, brandio a hysbysebu.

Mae Elliott ar gael i drafod eich syniadau busnes ac i’ch helpu ar eich taith i greu menter lwyddiannus. Mae croeso ichi gysylltu ag e trwy e-bostio elliott.evans@merthyr.gov.uk neu ffonio 07923 24135.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni