Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ydych chi'n gwneud fel y Jonesiaid?

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Medi 2019
Are you Keeping Up With The Joneses?

Os na wnewch chi ailgylchu, mae angen i chi ddechrau arni nawr, neu fe allech wynebu cosb benodedig 

Dyma’r neges glir oddi wrthym ni wrth i ni lansio ein hymgyrch newydd ‘Cadw lan ‘da’r Jonesiaid’, gan ganolbwyntio ar yr ychydig gartrefi hynny sydd prin yn ailgylchu os o gwbl ar hyn o bryd.

Bydd y dull gweithredu newydd yn ymdrechu o’r newydd i gael y lleiafrif hynny o gartrefi nad ydynt yn ailgylchu eto, i ddechrau arni nawr.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu eu sbwriel, ond mae’n hen bryd i bawb wneud hynny bellach” dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol.

“Pan nad yw cartrefi yn ailgylchu bob wythnos, gall biniau sbwriel orlifo, creu llanast a chynyddu’r risg o broblemau gydag arogleuon a phroblemau eraill. Nid yn unig yw hyn yn peri niwsans i’r gymuned, ond mae’n costio’n ddrud o ran amser ac arian i’w glirio, mae casgliadau ailgylchu wythnosol yn cadw’r stryd yn llawer glanach – mae’n llawer gwell i bawb.”

“Pan na fydd pobl yn ailgylchu, mae’n rhaid i ni dalu mwy nag sydd ei angen arnom i gael gwared â’r sbwriel a osodir mewn biniau du. Arian y gellid fod wedi ei wario ar ddarparu gwasanaethau i’r gymuned neu eu gwella, fel ysgolion, llyfrgelloedd, tai, parciau a gwasanaethau cymdeithasol; ond yn lle hynny arian a wariwyd yn clirio unrhyw lanast gafodd ei greu gan finiau sy’n gorlifo, yn ogystal â thalu am y costau gwaredu dianghenraid.” 

Mae’r gost i’r Cyngor o beidio ag ailgylchu’n sylweddol, ond hefyd yn un gellir ei osgoi’n llwyr. Pan fydd eitemau y gellid fod wedi eu hailgylchu’n diweddu yn y bin, mae pawb yn y gymuned yn colli allan.  

“Dyma’r rhesymau pam yr ydym yn canolbwyntio ar yr ychydig gartrefi hynny – am ba reswm bynnag – sydd wedi anwybyddu’r angen i ailgylchu hyd yma.”

“Rydym wedi gwneud ailgylchu’n broses hawdd. Mae casgliadau wythnosol ar gyfer llawer o eitemau yn digwydd yn union y tu allan i’r drws ffrynt, gan gynnwys papur, cardfwrdd, caniau, poteli, potiau plastig, tybiau a hambyrddau plastig, jariau gwydr, aerosolau, bwyd, tecstilau ac eitemau bach trydanol/electronig. Nid oes angen treulio llawer o amser nac ymdrech i ddidoli eich eitemau i’r bagiau, biniau neu flychau cywir. I’r rhan fwyaf o bobl ym Merthyr Tudful, mae hyn eisoes yn rhan o drefn bywyd”. 

Gall preswylwyr hyd yn oed ofyn i aelod o dîm y Cyngor ymweld â nhw yn eu cartrefi bellach, i ddangos iddynt sut i ddidoli ac ailgylchu eu sbwriel. Mae’r gwasanaeth hwn yn arbennig o bwysig i gefnogo’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned.

Os fydd unrhyw gartrefi’n anwybyddu’r gefnogaeth a gynigiwyd ac yn parhau i ailgylchu ychydig iawn neu ddim o gwbl, bydd y Cyngor yn cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i’r preswylydd dalu cosb benodedig o £100 neu ymddangos mewn llys.

Dywedodd y Cynghorydd Hughes, “Nid ydym am weithredu’n orfodol, ond nid yw’n deg ar yr holl gymuned os fydd rhai cartrefi’n parhau i beidio ag ailgylchu’r hyn allant pan fydd pawb arall yn gwneud hynny.

“Er hynny, peidiwch â phoeni – dim ond ar y cartrefi hynny nad ydynt yn gwneud yr ymdrech i ailgylchu llawer neu ddim o gwbl y bydd hyn yn effeithio."  

“Rhaid i bawb ailgylchu eu sbwriel yn gyfrifol. Dylai’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny ymuno â’u cymdogion ac ailgylchu ar gyfer eu cymuned. Cofiwch ‘gadw lan gyda’r Jonesiaid!”

Rydym yn annog nad ydynt yn ailgylchu i beidio ag aros am lythyr rhybudd, ond i fynd ati ar unwaith. Gallwch gysylltu â ni yn awr i ganfod:  

  • Yr hyn allwch ac na allwch ei ailgylchu
  • Pa ddiwrnodau’r wythnos gaiff eich ailgylchu ei gasglu (ac unrhyw sbwriel dros ben na ellir ei ailgylchu)
  • Pa fagiau, biniau neu flychau allai fod eu hangen arnoch os nad ydynt ganddoch eisoes ac o ble i’w harchebu am ddim gan ddefnyddio’n gwefan https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/
  • Pa gefnogaeth all y Cyngor ei roi i chi - rydym yma i’ch helpu chi os oes gennych unrhyw gwestiynau!

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau