Ar-lein, Mae'n arbed amser

Busnesau hael yn sicrhau fod 70 o blant lleol yn parhau i ddysgu

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Chw 2021
Pantyscallog tablets

Mae dau o fusnesau Merthyr Tudful wedi gwario mwy na £15,000 ar 70 gliniadur newydd i ddisgyblion mewn pump o ysgolion cynradd lleol.

Gwnaeth Abox Storage Solutions roi 50 o dabledi Lenovo a gwnaeth Raynes Scaffolding & Groundworks roi 20 Chromebook i Ysgolion Cynradd Pantysgallog, Sant Aloysius, Sant Illtyd, Gwaunfarren a Gellifaelog.

Cysylltodd y cwmnïau ag adran addysg y Cyngor Bwrdeistref Sirol i ofyn a allai ysgolion enwebu teuluoedd a fyddai’n debygol o elwa o gael y cyfrifiaduron.

Dywedodd Huw Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Abox a leolir ym Mharc Diwydiannol Melin yr Afr: “Fel busnes lleol, mae’n golygu llawer i ni roi cefnogaeth pan fo’i angen. Rydyn ni wedi rhoi waliau addysgu a nwyddau storio i Ysgol Gwaunfarren ac rydyn ni’n hapus i roi i elusennau lleol yn rheolaidd.

“Roedd y penderfyniad i brynu 50 o dabledi i ysgolion cynradd lleol yn un naturiol, ar ôl clywed am anawsterau athrawon a rhieni i gadw addysg ein plant i fynd yn ystod yr adeg anodd a rhyfeddol hwn.”

Dywedodd Karen Raynes, Cyfarwyddwr Raynes Scaffolding & Groundworks, sy’n masnachu o Ystâd Ddiwydiannol Pant, fod y busnes o hyd yn chwilio am ffyrdd i helpu allan yn y gymuned leol.

“Bob blwyddyn, rydyn ni wedi noddi clybiau chwaraeon lleol,” ychwanegodd. “Ond eleni, yn sgil y pandemig a chau’r ysgolion am beth amser – a hefyd ar ôl darllen fod rhai plant lleol yn cael trafferth cael mynediad i wneud gwaith ysgol ar-lein – meddylion ni y bydden ni’n gallu darparu Chromebooks i ysgolion eu dosbarthu i blant a oedd eu hangen yn y gobaith na fydden nhw’n syrthio tu ôl gyda’u gwaith ysgol neu’n teimlo allan ohoni mewn unrhyw ffordd.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Ddysgu, y Cynghorydd Lisa Mytton ei bod hi am ddiolch i’r cwmnïau am eu rhoddion. “Mae’r pandemig wedi effeithio’n ariannol ar lawer o bobl felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn am haelioni’r busnesau yn sicrhau fod ein pobl ifanc yn dysgu mewn amgylchedd sy’n deg i bawb o ran technoleg.”

Cafodd deg tabled eu rhoi i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd yn defnyddio darpariaeth Hyb Argyfwng yn Ysgol Gynradd Pantysgallog, yn ogystal ag i’w defnyddio gan ddysgwyr yn y cartref.

Dywedodd y Pennaeth, Darren Thomas (yn y llun gyda’r disgyblion): “Byddwn yn defnyddio’r rhain i gefnogi dysgu o bell ar gyfer disgyblion a theuluoedd sy’n cael eu heithrio’n ddigidol. Byddant yn galluogi disgyblion i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu o bell a chymryd rhan mewn gwersi byw neu sesiynau llesiant.”

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni