Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gosod bolardiau yng nghanol y dref i wneud siopa’n fwy diogel

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Ion 2021
High Street bollards

Mae’r Cyngor am osod bolardiau parhaol yng nghanol tref Merthyr Tudful mewn ymateb i’r broblem gynyddol o gerbydau’n defnyddio ardaloedd i gerddwyr yn unig a pheri perygl i siopwyr.

Caiff 31 o folardiau eu gosod yn Sgwâr y Farchnad a’r Stryd Fawr Uchaf dros y mis nesaf gan roi mynediad i gerbydau cyflenwi nwyddau yn unig, ac ar adegau penodol o’r dydd a’r wythnos.

Byddan nhw’n cael mynediad ar ddiwrnodau marchnad (dyddiau Mawrth a Sadwrn) o 8:30am ac o 5:30pm tan ganol nos. Bydd gweddill yr wythnos yn caniatáu mynediad cyn 11am ac ar ôl 3pm.

“Mae ein tîm Adfywio wedi bod yn gweithio ar ddatblygu cynllun i atal symudiad dyddiol a gwaharddedig cerbydau ar ein Stryd Fawr sydd yn ardal i gerddwyr yn unig,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd.

“Dros y mis diwethaf, cafwyd cynnydd brawychus yn y nifer o gerbydau sy’n defnyddio’r mynediad i Stryd y Farchnad a’r Stryd Fawr Uchaf. Mae hyn wedi arwain at fwy o ddigwyddiadau o wrthdaro rhwng cerddwyr a cherbydau sy’n bryder mawr o ran iechyd a diogelwch ac yn rhywbeth sydd angen mynd i’r afael ag ef ar frys.

“Mae timau Adfywio, gorfodi parcio a glanhau strydoedd wedi llunio cynllun gweithredu i sicrhau fod y bolardiau’n gweithio’n effeithiol o ddydd i ddydd a bod y mynediad priodol yn cael ei ddarparu/ ei reoli.”

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun nesaf (25 Ionawr), gyda Ace Builders a’r is-gontractwyr Raynes. Amcangyfrifir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod ail fis mis Chwefror. Ni chaniateir cerbydau nwyddau ar unrhyw adeg ar y Stryd Fawr rhwng Sgwâr y Farchnad a Stryd yr Alarch. Bydd unrhyw gerbydau diawdurdod sy’n cael mynediad at yr ardaloedd hyn ac ardaloedd gyda bolardiaid, neu sydd heb yn symud yn unol â Gorchmynion Traffig cyfredol, yn atebol i Hysbysiad Cosb Benodedig.

“Rydym yn hyderus y gall y cynllun hwn roi rheolaeth i’r Cyngor o’n Stryd Fawr ni eto, a helpu i greu amgylchedd mwy diogel a phleserus i’r preswylwyr lleol ac i ymwelwyr,” ychwanegodd y Cynghorydd Thomas.

“Bydd y cynllun hefyd yn helpu i ddarparu gwell mesurau cadw pellter cymdeithasol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn arwyddocaol iawn.”

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni