Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill cefnogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Hyd 2019
Cardiff Capital Region logo

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cytuno i ddyrannu cronfeydd arian i gynorthwyo i ddatblygu prosiectau a syniadau a all ysgogi a helpu i ddiogelu economi Pen-y-bont ar Ogwr i’r dyfodol, yn dilyn y cyhoeddiad bod ffatri beiriannau Ford yn y dref am gau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu ‘arian cyfatebol’ i’r £50,000, i ariannu gwaith dichonoldeb ac i ddatblygu cynigion achos busnes cadarn sydd â’r potensial i gael yr effaith fwyaf ar Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae ymateb i’r cynlluniau arfaethedig i gau’r ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr y flwyddyn nesaf, gyda cholli 1,700 o swyddi, wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys arweinwyr y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r Cabinet Rhanbarthol wedi cytuno i ddyrannu £50,000 o gymorth datblygiadol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i alluogi creu cynigion sy’n gwella adfywio lleol, yn ysgogi gweithgareddau economaidd, ac yn cynyddu hyder yn y dref.

Fel aelodau o Dasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr, fe fydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn mynd ati i fuddsoddi’r £50,000, ochr yn ochr â’r swm ‘cyfatebol’ gan Lywodraeth Cymru o £50,000, gan greu ‘cronfa sbarduno’ sy’n gwneud cyfanswm o £100,000.

Bydd y ‘gronfa sbarduno’ hon yn sicrhau bod gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr adnoddau cychwynnol i ddechrau datblygu cynigion ar gyfer prosiectau a all helpu i liniaru effaith y colli swyddi posibl ac i ysgogi twf diwydiannau newydd sydd wedi’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Mae rhai o’r meysydd a nodwyd gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr y gellid eu datblygu fel cryfderau cystadleuol yn cynnwys arloesi mewn twf glân ac ynni adnewyddadwy; man deori ar gyfer busnesau sy’n cychwyn mewn sectorau blaenoriaethol; a pharhad yn y gwelliannau i ganol trefi.

Y Cynghorydd Andrew Morgan yw Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ardal awdurdod lleol lle mae yna gannoedd o weithwyr y ffatri Ford.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan: “Mae hwn yn gyfnod anodd i Ben-y-bont ar Ogwr ac i’r ardal ehangach, ac fe safwn gyda’n gilydd i roi sylw i’r materion anodd hyn.

“Mae’r posibilrwydd o golli 1,700 o swyddi yn ergyd i’r economi lleol a rhanbarthol, ac fe fydd yr effaith ar y gadwyn gyflenwi’n effeithio ar economïau a chymunedau ar raddfa ehangach.

“Mae gweithlu Ford yn hynod fedrus ac mae arnom eisiau sicrhau ein bod, o ystyried ein bod yn canolbwyntio ar dyfu diwydiannau technoleg allweddol a gweithgynhyrchu blaengar yn y rhanbarth, yn gwneud y cyfan y gallwn i gadw gafael ar y gweithlu dawnus hwnnw.

“Mae’r gronfa sbarduno hon yn gatalydd ac mae’n dangos sut y gallwn weithio â Llywodraeth Cymru a chyflawni’n rôl yn ystyrlon ar Dasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu ysgogiad cychwynnol i brosiectau a all roi hyder ar hyn o bryd a magu gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David: “Rwyf yn ddiolchgar i fy nghydweithwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu buddsoddiad sbarduno a allai symbylu cyfleoedd i helpu i liniaru rhai o effeithiau’r darpar gynlluniau i gau ffatri Ford ac i hyrwyddo’r rhagolygon y credwn y gallant ddod i’r amlwg fel cryfderau economaidd lleol allweddol.

“Nid dyma’r ateb ynddo’i hun ac nid oes yna unrhyw atebion gwyrthiol, ond mae’n arwydd o gryfder a chydymddibyniad, ac fel rydym wedi’i weld gyda’r Fargen Ddinesig ei hun, fe all hadau mân dyfu potensial mawr.”

Meddai gan barhau: “Fe wn nad yw hyn yn sicrhau y gellir cael at gronfeydd mwy sylweddol y Fargen Ddinesig neu fuddsoddiad gan y llywodraeth. Bydd cael at y rhain yn ymwneud â natur ddarbwyllol a chryfder y cynigion buddsoddi rydym yn defnyddio’r arian sbarduno hwn i’w datblygu.

“Ond mae’n sicr yn rhoi’r hwb inni y mae arnom ei angen a’r modd i ddechrau pethau ac i fod yn uchelgeisiol yn ein hymdrech i drosoli’r buddsoddiad i mewn – buddsoddiad cyhoeddus a phreifat – i adeiladu dyfodol economaidd cryf i Ben-y-bont ar Ogwr, yn enwedig ar ôl y newyddion cyffrous bod INEOS Automotive, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, am adeiladu’i gerbyd pedair olwyn newydd yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Pan wnaethom gyhoeddi bod INEOS yn symud i Ben-y-bont ar Ogwr, fe ddywedais na fyddai gwaith i gefnogi’r ardal yn sgîl cynigion Ford yn dod i ben gyda hynny.

“Bydd y gyd-fenter hon gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hanfodol i gyflymu rhagor ar gyfleoedd busnes newydd fydd yn cynorthwyo gweithwyr Ford ac yn rhoi hwb i ymdrechion i sicrhau dyfodol cyffrous i’r dref.

“Un o amcanion allweddol Tasglu Ford yw canfod a hyrwyddo cyfleoedd economaidd y safle, yr ardal, y gweithlu, a’r gadwyn gyflenwi i greu opsiynau masnachol hyfyw a chynaliadwy i Ben-y-bont ar Ogwr wrth edrych tuag at y dyfodol. Rwyf yn hyderus y bydd y cyllid hwn yn helpu i wneud hynny, ac yn adeiladu ar gydnerthedd economaidd a chymdeithasol y gymuned leol wrth inni weithio i gynnal, hyrwyddo a thyfu hyder economaidd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni