Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad Cyllideb 2020/21

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 28 Hyd 2019
Cwm Taf Hub - Have your say logo

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Cabinet y Cyngor allan ledled y Fwrdeistref Sirol yn gofyn i chi, ein preswylwyr, sut yr ydych chi’n meddwl y dylai’r Cyngor wario ei gyllideb ar gyfer 2020/21.

Fel y byddwch yn ymwybodol ohono, mae Merthyr Tudful, fel awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, wedi gweld lleihad parhaus o ran arian oddi wrth Lywodraeth Cymru. Y mae hyn yn golygu ein bod ni’n gorfod edrych ar sut y mae’r Cyngor yn cyflenwi ei wasanaethau’n barhaus, tra bo gwerth am arian yn cael ei ddarparu i’n cwsmeriaid hefyd.

Y mae’n bwysicach nac erioed i geisio cael eich safbwyntiau cyn gosod y gyllideb ac anogwn ein holl breswylwyr i fynychu un o’r sesiynau ymgynghori a restrir isod. Bydd Cabinet y Cyngor ar gael i ateb cwestiynau a hefyd derbyn unrhyw awgrymiadau effeithiolrwydd a fydd yn ein cynorthwyo ni wrth i ni ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon yn y dyfodol.  

Amserlen Ymgynghori Cyllideb

Event

Date

Time

 

 

 

The College Merthyr Tydfil

Wednesday 24th October

12.00 am - 2.00 pm

Treharris Library

Friday 1st November

2.30 pm – 3.30 pm

The College Merthyr Tydfil

Wednesday 6th November

4.00 pm - 6.00 pm

Merthyr Tydfil Leisure Centre

Wednesday 7th November

4.00 pm – 600 pm

Tesco

Monday 18th November

1.30 pm – 2.30 pm

Merthyr Tydfil Civic Centre Reception

Wednesday 20th November

11.00 am – 1.00 pm

 

Os na allwch fod yn bresennol mewn digwyddiad ymgynghori gallwch gwblhau holiadur y gyllideb yma.

Am wybodaeth bellach neu i dderbyn copi papur cysylltwch â’r Adran Cyfathrebiadau, Ymgynghori ac Ymgysylltu ar 01685 725087/5320, neu gallwch e-bostio: Corporate.Communications@merthyr.gov.uk

Noder:  Mae’n bosibl y caiff digwyddiadau ymgynghori ychwanegol eu hychwanegu at yr amserlen. Gwiriwch wefan y Cyngor a’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol am y diweddaraf.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni