Ar-lein, Mae'n arbed amser

Yr Orsaf Fysiau yn barod i agor yng ngwanwyn 2021

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Rhag 2020
Bus station December 2020

Mae gwaith ar orsaf fysiau newydd Merthyr Tudful bron iawn ar ben a bydd yr adeilad yn barod i agor, ar amser yng ngwanwyn 2021.

Mae’r adeilad trawiadol yn awr i’w weld yn glir uwch adeiladau canol y dref – gorsaf fysiau ar gyfer y 21 ganrif a fydd yn hyb ar gyfer trafnidiaeth ledled y fwrdeistref sirol.

Mae’r cladio, y ffenestri, y gwaith carreg a’r panelu sinc allanol oll wedi eu cwblhau. Mae gwaith adeiladu’r ffyrdd, y llwybrau cerdded, y waliau cynnal, y cyrbau a’r tarmac yn dod yn eu blaen yn ogystal â’r gwaith addurno mewnol - gwaith coed y brif neuadd, y drysau, y ceginau, y mannau cyhoeddus a’r tai bach.

“Mae tîm y safle’n gyffrous iawn i weld yr holl waith caled yn dod ynghyd mewn adeilad sydd o ansawdd uchel yr ydym yn falch iawn ohono,” dywedodd Ross Williams, y rheolwr prosiect ar gyfer y prif gontractwr, cwmni adeiladu Morgan Sindall.

“Rydym y parhau i weithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’i gynrychiolwyr i ddarparu’r adeiladu trawiadol. Rydym yn falch i allu cwblhau adeilad y bydd y cyhoedd yn ei ddefnyddio ac a fydd yn darparu ar gyfer y gymuned yr ydym yn gweithio yn ei chanol.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym wedi aros amser hir i weld yr orsaf fysiau hon yn cael ei hadeiladu ac mae’n gyffrous ei bod bron iawn ar ben.

“Bydd yn dirnod ym Merthyr Tudful a bydd yn gwasanaethu’r dref am flynyddoedd lawer i ddod. Hoffwn longyfarch cwmni adeiladu Morgan Sindall am beidio gadael i flwyddyn mor anodd effeithio ar y gwaith ac iddynt barhau i wneud swydd mor arbennig.

“Hoffem hefyd ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd gyda'r problemau traffig a achosir gan y gwaith, ac i adael iddyn nhw wybod y bydd hi'n werth chweil.”

  • Dyfarnodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £11 miliwn o bunnoedd i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer adeiladu’r orsaf sydd wedi ei lleoli’n agosach at orsaf drenau’r dref ac a fydd yn cyd-fynd â buddsoddiad sylweddol Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau’r Cymoedd.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni