Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datblygiad yr orsaf fysiau yn weladwy i bawb

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Gor 2020
Bus station update july

Flwyddyn ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau, mae Gorsaf Fysiau newydd Merthyr Tudful yn dechrau edrych yn orffenedig, gyda’r ffryntiad gwydr a’r cladin cerrig bron wedi’u cwblhau.

Erbyn hyn, gall defnyddwyr y dyfodol, gan gynnwys gweithwyr fel gyrwyr bysiau, perchnogion caffis, yr heddlu a’r cyhoedd, weld yr adeilad yn ymffurfio.

Mae llawer o waith wedi’i wneud ar y to hefyd ac mae gwaith ar fannau allanol a stryd yr orsaf bron â’u gorffen, gan roi mynediad i’r cyhoedd unwaith eto at gyrion Capel y Stryd Fawr.

“Bydd gwaith ar y ffasâd gwydrog yn helpu i wneud yr adeilad yn ddiddos,” meddai Ross Williams, y Rheolwr Prosiect ar gyfer y prif gontractwr Morgan Sindall Construction. “Mae’r parwydydd mewnol yn dod yn eu blaenau, gan greu lleoedd sy’n helpu i roi siâp go iawn ar yr adeilad.

“Mae’r cynnydd wedi bod yn dda iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf - mae gennym 60 i 70 o weithwyr ar y safle ar gyfartaledd ar unrhyw un adeg, a byddwn yn parhau i gynyddu cyflymder a gweithgaredd wrth i’r prosiect ddatblygu.

Dywedodd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Ar ôl blwyddyn ar y safle, gan gynnwys yr holl waith sylfaenol oedd ei angen cyn hyd yn oed dechrau ar yr adeiladu, mae’n gyffrous iawn gweld argraff yr arlunydd yn dod yn fyw.

“Mae’n ddyluniad hyfryd sy’n llwyddo i ymdoddi i’r amgylchedd a denu’r llygad – mae’r waliau a’r cladin o gerrig glas naturiol Pennant, ac mae’r to yn dilyn proffil Bannau Brycheiniog yn y pellter.

“Mae Morgan Sindall Construction yn gwneud gwaith rhagorol ac edrychwn ymlaen at garreg filltir nesaf y datblygiad.”

Mae’r orsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar safle’r hen orsaf heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir cwblhau’r gwaith yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru gyllid o £10m i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf, a fydd wedi’i lleoli’n agosach at orsaf drenau’r dref, i gyd-fynd â’i fuddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni