Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arwyddo strwythur dur yr orsaf fysiau fel rhan o ddathliad capsiwl amser
- Categorïau : Press Release
- 13 Maw 2020
Ar ôl misoedd o gloddio dwys a pharatoi’r tir, mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn dechrau dod i’r golwg gyda bod y ffrâm ddur sy’n strwythur i’r adeilad wedi ei chodi.
Gwnaeth y prif adeiladwr, Morgan Sindall ddathlu’r achlysur arbennig drwy gynnal seremoni arwyddo dur gydag aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn bresennol a’r gwneuthurwyr dur, y cwmni Cymraeg, Shufflebottom.
Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill, y Maer sef y Cynghorydd Howard Barrett a’r Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas, ar y cyd â chyfarwyddwr y cwmni Alex Shufflebottom, arwyddo a dyddio hytrawst dur a fydd yn rhan o’r adeiladwaith.
Bydd y strwythur - â phroffil to sy’n dynwared proffil Bannau Brycheiniog - yn cynnwys 135 tunnell o ddur wedi ei rolio’n boeth, sy’n mesur 80m o hyd ac o 11.4m o uchder. Bydd yn cymryd tua chwe wythnos i’w godi gan gynnwys y lloriau a’r grisiau.
Dywedodd y Cynghorydd O’Neill: “Mae’n wych gweld y ffrâm yn cael ei chodi ar ôl y gwaith cloddio enfawr, a oedd yn cynnwys gosod sylfeini concrit mawr. Y to a’r system fframio strwythurol yw’r arwydd gweledol cyntaf o’r orsaf, ac roedd yn bleser ac yn fraint cael arwyddo fy enw fel rhan o ddigwyddiad capsiwl amser.”
Dywedodd Ross Williams sef Rheolwr Prosiect Morgan Sindall: “Mae hwn yn ddechrau ar gam newydd a chyffrous wrth i ni ddod allan o’r ddaear a gwireddu’r adeilad y bu cymaint yn gweithio mor galed i’w gyflawni. Roedd yn wych gweld y bobl sy’n ymwneud â’r gwaith yn ‘gadael eu nod’ ar y ffrâm am byth.”
- Caiff yr orsaf fysiau newydd ei hadeiladu ar safle hen orsaf yr heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir i’r dyddiad cwblhau fod yn y gwanwyn flwyddyn nesaf.
Dyfarnodd Llywodraeth Cymru nawdd o £10m i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf, a gaiff ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, er mwyn cydweddu â’i fuddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.