Ar-lein, Mae'n arbed amser

Busnesau’n creu argraff dda wrth ymateb i ofynion ariannu Covid-19

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Ion 2021
Caffi Soar

Mae busnesau Merthyr Tudful wedi ymateb yn gyflym i apêl am grantiau i’w helpu yn eu hadferiad yn dilyn Covid-19, gan wneud argraff dda ar swyddogion y Cyngor gyda’u syniadau arloesol o ran cynlluniau ehangu.

O fewn tridiau yn unig, yn dilyn cyhoeddiad Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru am arian ar gyfer lletygarwch, twristiaeth a’r sector hamdden, ymgeisiodd mwy na 150 o fusnesau am siâr o’r £3 miliwn o arian i gefnogi canol trefi llai oddi fewn i ffiniau Gweithlu’r Cymoedd.

Yn eu plith roedd tafarndai, tai bwyta, caffis, gwestai, llefydd gwely a brecwast, a chwaraeon a hamdden, perchnogion adeiladau cymunedol a chrefyddol. Gwnaethon nhw gyflwyno amrywiaeth o syniadau cyffrous a oedd yn eu galluogi i ymateb i reoliadau’r pandemig.

Yn sgil gordanysgrifio, mae’r Gronfa wedi cau bellach ac ni fydd y Cyngor yn gallu prosesu unrhyw geisiadau pellach.

“Rydym wedi bod wrth ein boddau gyda’r ymateb anhygoel oddi wrth ein busnesau ar ôl i ni eu hannog i ymgeisio’n gyflym,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Gwelwyd llawer o frwdfrydedd yn eu plith a rhai syniadau gwych ar gyfer cynllunio i’r dyfodol ac adferiad ar ôl Covid. Cawsant eu hysgogi’n llwyr ac rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn o weld sut olwg allai fod ar eu busnesau yn y dyfodol.”

Bydd y grantiau, hyd at £20,000 am bob busnes, yn cynnwys hyd at 100% o gostau ar gyfer prosiectau fel creu gwagleoedd masnachu awyr agored gydag adlenni, canopis a gwres awyr agored; byrddau a seddi awyr agored; cynlluniau isadeiledd gwyrdd bach, goleuo a mesurau cadw pellter cymdeithasol dan do fel gosod sgriniau.

“Gwnaethon ni osod gweithlu o swyddogion i weithio’n agos iawn gyda busnesau a darparu peirianwaith cefnogi”, dywedodd y Cynghorydd Thomas. “Cafodd yr awdurdod ddyraniad o £325,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru – ond erbyn i ni brosesu’r ceisiadau byddai gwerth yr holl brosiectau wedi gallu bod yn fwy nag £1m yn hawdd.

“Mae’n ddrwg gennym orfod troi rhai pobl i ffwrdd, ond mae’n bosibl y bydd cyfle am ragor o arian yn y dyfodol agos, ac mae’r Cyngor yn barod i fynd at Lywodraeth Cymru i ofyn am arian ychwanegol.

“Bydd y rheini na wnaeth gyrraedd y dyddiad cau y tro hwn, ond sy’n gymwys ac sydd wedi meddwl am syniadau da yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn, a byddwn yn cysylltu â nhw yn y man.

“Rydyn ni mor falch o weld fod busnesau Merthyr Tudful yn optimistig ac yn ymladd yn ôl gyda’r nod o fod yn well nac erioed pan ddown ni allan o’r pandemig hwn.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni