Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galwad ar bob person 16 a 17 oed!

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Maw 2021
Foreign Citizen Register Vote

Nid oes ots ble cawsoch chi eich geni, os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch chi nawr bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

Yn 2020, fe basiodd y Senedd ddeddf newydd arwyddocaol, sef Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Un o'r newidiadau pwysicaf yn y ddeddf newydd oedd galluogi dinasyddion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf a chymryd rhan yn etholiadau'r Senedd.

Dyma newid mawr i'n democratiaeth yng Nghymru, ac mae'n gyfle i filoedd o bleidleiswyr newydd ddweud eu dweud yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Am y tro cyntaf, bydd gan wladolion tramor y pŵer i helpu dewis pwy sy'n eu cynrychioli nhw, yn ogystal â chreu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol.

A chithau'n wladolyn tramor, mae eich pleidlais yn cyfri – peidiwch â'i cholli. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae'n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi'n gallu cymryd rhan yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.

Pwy sy'n ‘ddinesydd tramor cymwys’?

Dinesydd tramor cymwys yw rhywun sy'n preswylio yng Nghymru ond heb fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd, neu Weriniaeth Iwerddon, ac sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, neu'r hyn sydd gyfystyr â hynny.

Sut mae cofrestru?

I gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae'n cymryd tua 5 munud fel arfer.

Gofynnir am eich rhif Yswiriant Gwladol wrth i chi gofrestru (ond byddwch chi'n cael cofrestru os nad oes gennych chi un).

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni