Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn datgelu cynlluniau newydd ar gyfer cynlluniau Metro De-ddwyrain Cymru
- Categorïau : Press Release
- 17 Rhag 2019
MAE Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi datgelu diweddariadau allweddol i rwydwaith trafnidiaeth De Cymru, yn cynnwys creu cyfnewidfa drafnidiaeth ym Mhorth, a gwell cysylltiadau yng nghoridor blaenoriaeth i fysiau Dwyrain Caerdydd y brifddinas.
Ar ôl ei gyfarfod diweddaraf, fe gyhoeddodd Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys arweinwyr portffolios trafnidiaeth etholedig o’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gyfres o ddiweddariadau i Fframwaith Gwella’r Metro (MEF), y Fframwaith Asesu Cyffredin (CAF), Cam 1 Metro a Mwy, a strategaeth Tacsis Cerbydau Trydan (EV).
Isod, fe geir crynodeb o’r diweddariadau allweddol:
1. Cyfraniad cyllid y Fargen Ddinesig y cytunwyd arno tuag at ddau o brosiectau gwreiddiol Cam 1 y Metro a Mwy, sef:
Cyfnewidfa Porth, sy’n gynllun fydd yn sefydlu canolfan drafnidiaeth newydd, gyda bysiau a rheilffyrdd, fel ei gilydd, yn ffurfio cyfnewidfa ddi-dor rhwng y dulliau teithio.
Cytunwyd y caiff £225,000 ei wario i gynorthwyo cam cyntaf y Gyfnewidfa Drafnidiaeth ym Mhorth, sy’n cynnwys cyfnewidfa fysiau 7 cilfan newydd; rhannu cyfleusterau teithwyr â swyddfa docynnau; man gollwng teithwyr tacsis; seilwaith cerbydau trydan; deunyddiau adnewyddadwy; Parcio a Theithio; cyfleusterau beicio (y potensial ar gyfer cynllun rhentu Next Bike). Bydd y £225,000 yn cynorthwyo’r gorchwyl o gyflenwi yn gynnar cyfleuster Parcio a Theithio a chanddo 29 o leoedd gwag - gan adeiladu ar y cynigiad a’r dyluniad llawn a gwblhawyd ac a ariannwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Blaenoriaeth i Fysiau Dwyrain Caerdydd. Cytunwyd y bydd £85,000 yn cael ei wario i gynorthwyo’r datblygiad hwn yn Nwyrain Canol y Ddinas, sy’n rhaglen sy’n ymgorffori cyfres o becynnau teithio cynaliadwy a llesol fydd yn galluogi gwell cysylltiadau bysiau yng Nghanol Dinas Caerdydd, er mwyn gwella cynllun ehangach i gysylltu tair prif ffordd feicio ac i wneud gwelliannau i ddiogelwch cerddwyr. Bydd yr £85,000 yn cynorthwyo’n benodol i gwblhau cynigiad y dyluniad llawn ar gyfer y mesurau rhoi blaenoriaeth i fysiau ac i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llwyr â’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar ar systemau draenio cynaliadwy.
Cytunwyd yn gychwynnol ar y rhaglen Metro a Mwy ym mis Mawrth, 2019, pan wnaeth Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru nodi rhaglen £50 miliwn arfaethedig o gynlluniau trafnidiaeth lleol i gynorthwyo i weithredu Metro De Cymru.
Bydd Cam 1 y Metro a Mwy yn dyst i fuddsoddiad gwerth £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda chyd-fuddsoddiad dichonol o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Caiff yr £20 miliwn sy’n weddill ei ganfod drwy gyfraniadau datblygwyr lleol, buddsoddiad gan y sector preifat a chyfraniadau eraill, megis cronfeydd cyfalaf Cynghorau. Byddai’r gorchwyl o gyflenwi’r rhaglen yn dechrau yn 2019 ac fe fyddai’n gyflawn erbyn 2022.
Mae’r cynlluniau arfaethedig sy’n weddill yn cynnwys:
creu cysylltiad rheilffordd 3-4 milltir o Abertyleri i Lynebwy yn Aber-big, yn cynnwys cyfleuster Parcio a Theithio ar gyfer 100 o gerbydau;
darparu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd ar gyfer Caerffili, ar safle’r gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd cyfredol, ynghyd â gwybodaeth electronig, man gwefru cerbydau trydan ar gyfer bysiau, a chyfleuster Parcio a Theithio mwy o faint;
datblygu cyfnewidfa fysiau a rheilffyrdd yn Y Barri, ynghyd â phedwar i bump o gilfanau bysiau, darpariaeth ar gyfer tacsis ac estyniad dichonol i’r safle Parcio a Theithio presennol;
gweithredu cyfleuster Parcio a Theithio yn Y Pîl, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu canolfan drafnidiaeth integredig sy’n gwasanaethu’r gymuned leol ac aneddiadau cyfagos Porthcawl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr a Chorneli;
datblygu cyfnewidfa fysiau a chysylltiad newydd rhwng gorsaf fysiau a gorsaf reilffordd o fewn Merthyr Tudful, yn ogystal â chreu cyfleuster Parcio a Theithio ym Mhentrebach;
darparu maes parcio â 150-200 o leoedd ychwanegol ar ochr ddeheuol gorsaf Cyffordd Twnnel yr Hafren, ynghyd â 40 o leoedd beicio a theithio ychwanegol, mynediad cerdded a beicio diogelach, cyfnewidfa fysiau-reilffyrdd wedi’i hailwampio, mannau gwefru cerbydau trydan a gwell adeilad i’r orsaf;
darparu cyfleuster Parcio a Theithio yng Ngorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a New Inn gydag o leiaf 200 o leoedd, yn cynnwys man gwefru cerbydau trydan;
gwelliannau i goridor bysiau Casnewydd i Gaerdydd i gynyddu’r defnydd o fysiau ac i wella amseroedd teithio, ynghyd â chyflwyno cyfleuster Parcio a Theithio i’r dwyrain o Gasnewydd.
2. Rhoddwyd cefnogaeth i ddefnyddio Fframwaith Gwella’r Metro (a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru) a’r Fframwaith Asesu Cyffredin (a ddatblygwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd), fel ei gilydd, fel offer i gloriannu cynigion ar fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gan edrych tua’r dyfodol.
3. Rhoddwyd cymeradwyaeth i ddatblygu rhagor ar gynigion a nodwyd yn y strategaeth Tacsis Cerbydau Trydan a baratowyd yn ddiweddar mewn cydweithrediad â Cenex (sefydliad ymchwil ac ymgynghoriaeth annibynnol dielw sy’n ymwneud â cherbydau allyriadau isel). Mae hyn yn rhan o raglen ehangach sydd â’r bwriad o gydategu Metro a Mwy drwy ystyried cyfleoedd adfywio arloesol dan arweinyddiaeth trafnidiaeth ledled y rhanbarth i ddatblygu strategaeth gerbydau allyriadau isel ac i ddarparu seilwaith gwefru trydan, yn cynnwys cyfleusterau i dacsis.
Mae’r holl gynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo i fod yn llwyr gyson â dyheadau ehangach y Fframwaith Asesu Cyffredin yn ymwneud â sicrhau bod yr holl ddatblygiadau’n cefnogi cyfuniad o feini prawf allweddol, yn cynnwys tystiolaeth o ystyriaeth o ffactorau, megis: y potensial ar gyfer cynnwys gwelliannau cydamserol i seilwaith digidol, y potensial i ddefnyddio deunyddiau adnewyddadwy ac ynni gwyrdd, gostyngiad mewn tagfeydd a chynnydd cyfatebol yn ansawdd yr aer a’r effaith gyffredinol ar iechyd, cyfleoedd i ddatgloi modd o gael at dwristiaeth a hamdden, ac yn hynod bwysig, caffaeliad oddi wrth fusnesau rhanbarthol.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym wedi datblygu Cam 1 y Metro a Mwy, Fframwaith Gwella’r Metro a’r Fframwaith Asesu Cyffredin, ac rydym yn falch o fod yn gallu darparu diweddariadau ar y rhain. Bydd y diweddariadau hyn yn ein helpu i ddatblygu’r prosiectau hyn wrth inni ei hanelu hi at 2020 a gweithio i ddod â budd i gymunedau ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Trafnidiaeth yw un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r rhanbarth dros y cwpwl o ddegawdau nesaf, ac mae’n hanfodol ein bod yn creu’r gwelliannau a’r cynyddiadau hyn yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd o’n blaen.”
Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae’r gorchwyl o roi rhaglen Cam 1 y Metro ar waith yn hynod arwyddocaol i ni. Mae gweithredu rhaglen o gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy lleol yn golygu y gall ein cymunedau lleol ddechrau gweld a theimlo buddion uchelgais ehangach y Metro, ac rydym wrth ein bodd bod ein Fframwaith Asesu Cyffredin a gyflwynwyd yn ddiweddar wedi sicrhau bod prosiectau Porth a Dwyrain Caerdydd, fel ei gilydd, yn cofleidio’r angen i ychwanegu gwerth drwy fod yn esiampl o symudiad tuag at ddyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy.
“Gyda chydamcan cyffredin, rydym yn gweithio’n gydweithredol â Llywodraeth Cymru, yn cysoni’n rhaglenni, ac yn mabwysiadu dull cyd-gyllido o weithredu er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio hyd yr eithaf ar werth ein hymdrechion i sicrhau nad yw’r dyfodol yn ymwneud â gwneud yr un pethau’n well ond yn hytrach ei fod yn ymwneud â gwneud pethau gwell. Edrychwn ymlaen at Fetro a Mwy 2!”
Dywedodd Ken Skates, AC, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Rydym wedi’n hymrwymo i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth ledled Cymru, ac rydym wedi dyfarnu £3.5 miliwn i raglen Metro a Mwy Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer datblygu a chynllunio blaenoriaethau trafnidiaeth rhanbarthol. Bydd Cyfnewidfa Porth a Blaenoriaeth i Fysiau Dwyrain Caerdydd, fel ei gilydd, yn elwa o’r cyllid hwn.
“Bydd cynlluniau Metro De-ddwyrain Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, gan wella hygyrchedd a gwella dewis o ddulliau trafnidiaeth, ac fe edrychwn ymlaen at eu gweld yn cael eu datblygu.”