Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar daith i gynorthwyo sefydliadau yn Ne-ddwyrain Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Gor 2019
Cardiff Capita Logo

Bydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn teithio ledled y rhanbarth fis Gorffennaf hwn i godi ymwybyddiaeth o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac o sut mae’n bwriadu cynorthwyo a gweithio ag ystod o fusnesau rhanbarthol o bob maint.

O ddydd Mercher, y 3ydd o Orffennaf tan ddydd Mercher, y 24ain o Orffennaf, fe fydd cynrychiolwyr y cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â busnes drwy Dde-ddwyrain Cymru i gyd ac yn cyflwyno Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i sefydliadau ac entrepreneuriaid.

Nod y daith yw dod â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn nes at gwmnïau o fewn y rhanbarth, gan amlygu sut y gallant gydweithredu a thyfu gyda’i gilydd. Yn y digwyddiadau ymgysylltu, fe all mentrau lleol a rhanbarthol ganfod mwy o wybodaeth am y cyfleoedd y mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eu cynnig. Yn ystod y daith, fe fydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn mynd ati i ymgysylltu â busnesau o sbectrwm eang o sectorau a meintiau, yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i gorfforaethau mwy o faint.

Gall ymwelwyr hefyd ganfod mwy o wybodaeth am y Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n cynnig y cyfle i fusnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaid gyflwyno cynigion buddsoddi ar gyfer cyfran o’r £495 miliwn sy’n weddill sydd gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael ar gyfer buddsoddi. Mae’r Fframwaith yn bwriadu buddsoddi mewn prosiectau bytholwyrdd y maen’ nhw’n credu fydd yn helpu’r rhanbarth i ffynnu a dod â budd i genedlaethau’r dyfodol, gan ymateb i dair blaenoriaeth y rhanbarth, sef: arloesi, seilwaith a her.

Crëwyd y Cyngor Busnes i sicrhau bod gan y gymuned fusnes lais cryf yn natblygiadau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Y nesaf ar y rhestr at ynganu’u hanghenion o fewn y rhanbarth, mae’r cyngor yn nodi blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau cymorth busnesau a dylunio rhaglenni cymorth y dyfodol.

Dywedodd Neil Brierley, Cadeirydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisiau datblygu rhanbarth llewyrchus a ffyniannus lle mae ar bobl eisiau byw a gweithio. Rydym yn deall y rôl bwysig sydd gan gwmnïau yn hyn ac mae arnom eisiau gweithio’n agos â nhw, gan sicrhau bod eu hanghenion a’u blaenoriaethau’n cael eu clywed a’u cynrychioli.

“Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gatalydd ar gyfer busnesau ac adfywio economaidd hirdymor. P’un a ydynt yn fusnes bach a chanolig neu’n gorfforaeth sy’n fwy o faint, mae gan fusnesau rhanbarthol ran hanfodol mewn llunio’n rhanbarth i fod yn hunangynhaliol, ac felly mae’n bwysig bod pob diwydiant yn teimlo’u bod yn cael eu cynrychioli gennym. Gobeithiaf fod y digwyddiadau ymgysylltu hyn yn annog pobl o bob mathau o sefydliadau i alw heibio a chanfod mwy o wybodaeth am sut y gall Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd ddod â chyfleoedd economaidd newydd iddynt.”

A hithau wedi’i hadeiladu ar gryfderau sector y rhanbarth, ei seiliau sgiliau cyfredol a phedair prifysgol lwyddiannus, mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn creu dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar y rhanbarth na welwyd erioed o’r blaen yn Ne-ddwyrain Cymru.

Drwy gydol mis Gorffennaf, fe gynhelir digwyddiadau ymgysylltu â busnes gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yng Nglynebwy (y 3ydd o Orffennaf), Caerdydd (y 10fed o Orffennaf), Pen-y-bont ar Ogwr (yr 17eg o Orffennaf) a Chasnewydd (y 24ain o Orffennaf). Mae croeso i bawb fynychu a chanfod mwy o wybodaeth. I ymuno â’r digwyddiadau, cofrestrwch eich diddordeb, os gwelwch yn dda, yn https://www.cardiffcapitalregion.wales/events/upcoming-events/.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni