Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofalu am eich Cymdogion y Nadolig hwn
- Categorïau : Press Release
- 24 Rhag 2020

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd, ac mae cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, o bosibl, yn ystyried sut y gallan nhw helpu'r trigolion hynny sy'n debygol o dreulio adeg y Nadolig ar eu pennau eu hunain eleni.
Mae trigolion caredig yn cael eu hannog i lawrlwytho'r cerdyn ‘Gofalu am eich Cymdogion y Nadolig hwn’, a'i argraffu, ac ysgrifennu eu henw, cyfeiriad a rhif ffôn arno, a'i bostio trwy ddrws rhywun sydd, o bosibl, yn teimlo'n ynysig – yn enwedig eleni o ystyried y cyfyngiadau cyfredol sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Mae'r cerdyn ar gael i'w lawrlwytho a'i argraffu yma: (PDF)
Fel arall, os nad oes gan drigolion beiriant argraffu gartref, fe allen nhw ddefnyddio'r testun sydd ar y cerdyn ac ysgrifennu eu cardiau eu hunain â llaw.
Noder: Er bod y cardiau yn cael eu cynhyrchu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i hwyluso'r ymgyrch hon, nid yw'r Cyngor yn cael ei ddal yn gyfrifol am weithredoedd yr unigolyn sy'n cael ei enwi ar y cerdyn.