Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dathlwch i Nodi 75 Mlynedd ers Diwrnod VE

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Mai 2020
VE Day 75

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gofyn i’w breswylwyr ymuno â Llwncdestun y Genedl i Arwyr yr Ail Ryfel Byd er mwyn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE.

Er bod llawer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer dydd Gwener, 8 Mai, wedi’u canslo oherwydd pandemig y coronafeirws, mae sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog pobl i nodi’r diwrnod o’u cartrefi.

Bydd distawrwydd cenedlaethol o ddau funud yn digwydd am 11am er mwyn i bobl anrhydeddu’r gwasanaeth a’r aberth a wnaed gan genhedlaeth yr Ail Ryfel Byd, a myfyrio ar yr effaith ddinistriol y mae Covid-19 wedi’i chael ar gynifer o fywydau ledled y byd.

Am 3pm, caiff pawb ledled y DU eu hannog i godi gwydraid o’u dewis a chymryd rhan yn Llwncdestun y Genedl i Arwyr yr Ail Ryfel Byd, mewn teyrnged i’r cyfraniad a wnaed gan filiynau o’r wlad hon ac o wledydd tramor.

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i wneud eu baneri coch, gwyn a glas eu hunain er mwyn addurno’u ffenestri. Arhoswch yn eich gerddi eich hunain a chadwch at ganllawiau’r llywodraeth.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Kevin O’Neill, “Ar 8 Mai 1945 am 3pm, cyhoeddodd y Prif Weinidog Winston Churchill fod y rhyfel yn Ewrop wedi dod i ben.

“Er y cynhaliwyd dathliadau mawr a phartïon yn y stryd, roedd Diwrnod VE hefyd yn foment o dristwch a myfyrdod mawr. Roedd miliynau o bobl wedi colli’u bywydau gyda llawer yn parhau i ymladd mewn brwydrau eraill neu’n dal i fod yn garcharorion rhyfel mewn gwlad dramor. Mae nodi’r 75 mlynedd ers y digwyddiad yn rhoi cyfle i fyfyrio ar yr aberth enfawr a wnaed gan bobl o bob cefndir ac i ddweud diolch.

“Byddwn yn annog cynifer ohonoch â phosibl i nodi’r achlysur, cyhyd â bod y dathliadau’n cael eu cynnal yn eich cartrefi neu’ch gerddi eich hunain, gyda dim ond y rhai rydych chi fel arfer yn byw gyda nhw, a chan ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gadw pellter cymdeithasol.

“Hoffwn i weld pob un ohonon ni’n gwneud ymdrech i ddweud diolch a nodi’r aberthau a wnaeth ein lluoedd arfog, a llawer o rai eraill, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wrth iddyn nhw frwydro’n ddewr i sicrhau rhyddid ein gwlad a rhyddid llawer o bobl eraill ar draws Ewrop.”

Am fwy o fanylion neu syniadau ar sut i ddathlu, ymwelwch â:

75 Mlynedd ers Diwrnod VE https://ve-vjday75.gov.uk/

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

https://www.britishlegion.org.uk/get-involved/remembrance/remembrance-events/ve-day-75

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni