Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Eithriadol’ yng Ngwobrau Cyllid Cymru
- Categorïau : Press Release
- 10 Ebr 2019

Mae Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi’i anrhydeddu â gwobr Cyfraniad Eithriadol tuag at Gyllid yng Nghymru yng Ngwobrau Cyllid Cymru 2019, a gynhaliwyd gan Recruit 121 Finance & Accounting (Cyllid a Chyfrifo).
Fe wnaeth sgiliau arweinyddiaeth, arbenigedd ariannol a ffocws Frank Holmes ar y gymuned ehangach wneud iddo ddisgleirio gerbron panel beirniaid eleni.
Fe’i clodforwyd yn neilltuol am ei gyfraniad tuag at Dde-ddwyrain Cymru, gan iddo gymryd rôl allweddol fel Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Tachwedd, 2017. Mae Frank yn goruchwylio rhaglen fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn y Fargen Ddinesig, sy’n chwilio am gyfleoedd buddsoddi y gall y rhanbarth ffynnu ohonynt a dod yn fwy hygyrch.
Dywedodd Frank Holmes: “Mae’n fraint enfawr derbyn y wobr Cyfraniad Eithriadol tuag at Gyllid yng Nghymru a dilyn ôl troed cyn-Gyfarwyddwr Cyllid Admiral, Andrew Probert, yr wyf yn ei edmygu’n fawr.
“Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dysgu y bydd yn rhaid ichi yn aml fynd ar hyd y ffordd galed, faith yn hytrach na chymryd llwybr byr hawdd i fedi’r buddion hirdymor. Mae hyn hefyd yn gweddu i’r sector ariannol ac i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan groesawu prosiectau fydd o fudd i’r rhanbarth yn y cyfnod maith.
“Rydym yn buddsoddi mewn sectorau arloesol ac sydd o ansawdd uchel, megis y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac yn bwriadu cefnogi’r eco-system Technoleg Ariannol, sy’n tyfu, yn ogystal â chroesawu partneriaethau cydlynus, fel y gellir ei weld o’n cydweithrediad â phrifysgolion ar gyfer cynllun graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Cadeirydd y panel dyfarnu oedd Ken Poole, pennaeth datblygu economaidd yng Nghyngor Caerdydd.
Talodd deyrnged i Mr Holmes, gan ddweud: “Bob blwyddyn, fe ddaw panel o feirniaid ynghyd i ganfod unigolyn sydd wedi bod yn gyfranogwr allweddol yn economi Cymru dros nifer sylweddol o flynyddoedd. Eleni, roedd pawb yn chwim i nodi cyfraniad Frank a’r rôl hanfodol roedd ganddo yn Gambit Corporate Finance ac ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, fel ei gilydd.
“Mae’i wybodaeth helaeth yn y sector ariannol, ei fentergarwch a’i ymdeimlad o arweinyddiaeth yn gyfraniad gwych tuag at Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Maent yn hanfodol i helpu De-ddwyrain Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwneud cyfraniad cynaliadwy tuag at dwf yn y rhanbarth.”
Yn gynharach eleni, fe ddatgelodd Frank Gynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac fe’i cyflwynodd gerbron cynulleidfa fyd-eang a buddsoddwyr dichonol yn Cannes yn MIPIM, prif arddangosfa eiddo y byd. Mae’r Cynllun yn adeiladu ar fanteision cystadleuol y rhanbarth ac mae’n targedu’n strategol sectorau fydd yn helpu’r rhanbarth i ffynnu ac i ddod â budd i genedlaethau’r dyfodol.
Gellir cyrchu’r Cynllun ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn https://bit.ly/2WUjS9J ac mae’n nodi rhai o’r materion cynhyrchiant economaidd sy’n wynebu De-ddwyrain Cymru. Mae’n cefnogi prosiectau arloesol a ddaw â thwf cynaliadwy a llewyrch cynhwysol i’r rhanbarth, ac mae’n hyrwyddo rhyng-gysylltedd byd-eang oddi mewn i’r rhanbarth a’r tu hwnt iddo.
Daeth mwy na 400 o weithwyr proffesiynol ynghyd wrth iddynt anrhydeddu proffesiynolion ariannol gorau Cymru am yr ail flwyddyn olynol yn nigwyddiad Gwobrau Cyllid Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.