Ar-lein, Mae'n arbed amser

Newid trefniadau diwedd tymor ysgol ar gyfer yr wythnos nesaf

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 11 Rhag 2020
default.jpg

Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ddoe ac ystyried y nifer cynyddol o ddosbarthiadau sydd angen ynysu bu newid yn y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion ar draws Merthyr Tudful yr wythnos nesaf:

  • Bydd pob ysgol uwchradd a Maes Glas ar gau o ddydd Llun 14 Rhagfyr ond byddant yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb i ddysgwyr a gweithwyr allweddol sy'n agored i niwed a nodwyd tan dydd Gwener 18 Rhagfyr.
  • Bydd pob ysgol gynradd yn cau ddydd Mawrth 16 Rhagfyr ond bydd yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb i ddysgwyr a gweithwyr allweddol sy'n agored i niwed tan dydd Gwener 18 Rhagfyr.
  • Bydd gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal plant brys ar gyfer gweithwyr allweddol a dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael ei hanfon allan gan ysgolion.
  • Bydd yr UCD yn Nhŷ Dysgu a Hyfforddiant Arbennig yn parhau ar agor i ddysgwyr tan dydd Gwener 18 Rhagfyr
  • Gofynnir i bob disgybl sy'n mynychu ysgolion yn ystod yr wythnos ddod â phecyn cinio a bydd taliadau eFSM yn parhau i gael eu talu drwy'r system taliadau uniongyrchol tan yr wythnos a ddaw i ben ar 1 Ionawr 2021.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni