Ar-lein, Mae'n arbed amser
Goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen yn Nhreharris
- Categorïau : Press Release
- 06 Rhag 2019

Yn ôl eu harfer, heidiodd preswylwyr lleol i ganol tref Treharris ar gyfer cynnau’r goleuadau Nadolig yr wythnos hon.
Ymhlith y llu o weithgareddau tymhorol cafwyd perfformiad gan y grŵp gwerin lleol, Fiddler’s Elbow, ochr yn ochr ag amrywiaeth o stondinau dan ofal grwpiau fel Clwb Bechgyn a Merched Treharris a phreswylwyr lleol.
Côr Meibion Treharris oedd yn codi’r canu gyda charolau yn Eglwys Sant Mattias, a phlesiwyd y gynulleidfa hefyd â mins peis a gwin twym ac ymweliad oddi wrth Siôn Corn.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Eglwys Sant Matthias, a chafodd y goleuadau eu cynnau yn Sgwâr Treharris gan y Maer, y Cynghorydd Howard Barrett.