Ar-lein, Mae'n arbed amser
Goleuadau Nadolig yn cau ffyrdd
- Categorïau : Press Release
- 12 Tach 2019

O ganlyniad i’r Diwrnod Hwyl i’r Teulu a digwyddiad Cynnau’r Goleuadau Nadolig y penwythnos hwn, bydd nifer o ffyrdd a meysydd parcio yng nghanol y dref yn cael eu cau.
O Ddydd Iau 14 i Ddydd Sul 17 Tachwedd, bydd Maes Parcio Stryd Gilar ar gau o 6pm Ddydd Iau hyd Ddydd Sul.
O Ddydd Gwener 15 i Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, bydd gwaelod Stryd Newydd yr Eglwys a Maes Parcio Tŷ Gwyn ar gau o 8am Ddydd Gwener hyd 8pm Ddydd Sadwrn.
Ar Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, bydd Iard y Castell a Chilfach Llwytho Stryd John ar gau o 6am i 7pm; bydd y Stryd Lydan, Stryd y Tri Eog a’r Stryd Fawr Isaf (hyd at JOL’s) ar gau rhwng 6am a 10pm; a bydd Stryd y Castell, Stryd y Clastir, Lôn yr Ysgub Wenith, Stryd Fictoria a Stryd Fawr Pontmorlais ar gau rhwng 4pm a 6pm.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.