Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor ar Bopeth yn diolch i’r Cyngor am gefnogi Triumph

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Chw 2021
Triumph

Mae’r Cyngor wedi derbyn diolch am ei gefnogaeth barhaus i wasanaeth cynghori ym Merthyr Tudful sydd wedi cynorthwyo 159 o gyn staff cwmni Triumph a gollodd eu swyddi wedi i’r ffatri gau’n sydyn yn 2019.

Sefydlodd Cyngor ar Bopeth, Merthyr Tudful gymorthfeydd nosweithiol yn ei safle ar Lôn y Llythyrdy a hynny’n benodol er mwyn cynorthwyo’r gweithwyr. Yr wythnos hon, cyhoeddwyd iddynt fod yn llwyddiannus â’r cais a wnaethpwyd am gyflogau a oedd yn ddyledus.

Dyfarnwyd 90 diwrnod o gyflog i bob un o’r 159 a enwyd ar y cais. Gan fod y cyflogwr yn ansolfent, bydd yr arian yn cael ei dalu gan y Gwasanaeth Ansolfedd. Bydd £525 yr wythnos yn rhoi cyfanswm o £367,134.

Dywedodd Lisa Howell-Morgan, Pennaeth Gweithredol Canolfan Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful: “Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn parhau i fuddsoddi cymorth ariannol ar gyfer Cyngor ar Bopeth MT gyda’n Cytundeb Lefel Gwasanaeth. Mae’n ein galluogi i ddarparu cymorth allweddol a chymorth i gymuned Merthyr Tudful.

“Mae hyn yn ganlyniad gwych i weithwyr Triumph ac i staff Cyngor ar Bopeth ac yn enghraifft wych o sut all buddsoddiad gan yr awdurdod lleol fod o fudd mewn sefyllfaoedd bregus, lleol fel hyn.”

 Disgrifiodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton y penderfyniad fel ‘newyddion gwych.’ Ychwanegodd; “Rydym yn edrych yn galed ar amrywiaeth y sefydliadau yr ydym yn dyfarnu cyllid craidd iddynt a byddwn yn bendant, yn parhau’r berthynas sydd gennym â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.”

“Mae’r canlyniad hwn yn dangos sut mae buddsoddiad y Cyngor yn ein gwasanaethau’n cynorthwyo’n cymunedau, yn enwedig yn ystod cyfnodau o angen ac rwy’n llongyfarch Lisa a’i staff yn ogystal â chyn weithwyr Triumph.”

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni