Ar-lein, Mae'n arbed amser

Esboniad: Dim achos wedi ei ddatgan, hyd yn hyn ar safle prosesu cig ym Merthyr

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Meh 2020
public health wales

DATGANIAD

24 Mehefin 2020

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa’r cyhoedd a’r wasg nad oes achos wedi cael ei ddatgan, hyd yn hyn yn safle prosesu cig Kepak Merthyr ym Merthyr Tudful.

Cadarnhaodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru, Ddydd Mawrth diwethaf fod “clwstwr bychan’ yn cael ei archwilio ar y safle.

Ar hyn o bryd, mae nifer bychan o achosion wedi cael eu dynodi ar y safle ers i Gymru symud i’r cam Profi-Olrhain-Diogelu mewn ymateb i Covid-19. Mae ymchwiliadau yn mynd yn eu blaen er mwyn canfod achos y digwyddiad ond ni ellir dod i unrhyw gasgliadau yn ystod y cam cynnar hwn.

Mae’r tîm amlasiantaethol sydd yn ymchwilio i’r digwyddiad yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd a Diogelwch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Llywodraeth Cymru. Mae Kepak Merthyr yn cydweithio’n llwyr â’r archwiliad.

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan achos. Rydym yn cydweithio’n agos â’r cyflogwr, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a phartneriaid eraill a’n blaenoriaeth yw deall pa mor debygol yw trosglwyddiad y firws ar y safle ac yn y gymuned er mwyn osgoi lledaeniad pellach.

“Hoffem atgoffa’r cyhoedd, gan gynnwys cyflogeion Kepak Merthyr a’u cysylltiadau agos fod ganddynt ran bwysig yn yr holl broses er mwyn osgoi lledaeniad Coronafirws a chadw Cymru’n ddiogel.

“Gallant wneud hyn drwy ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol – cadw ddwy fetr i ffwrdd o’i gilydd – golchi dwylo’n rheolaidd a gweithio o gartref pan fydd fodd gwneud hynny.

“Os ydych chi neu aelod o’ch aelwyd yn cael eich cynghori i gael prawf COVID-19, dylech wneud hynny’n syth er mwyn osgoi lledaeniad yr haint.

“Pan fyddwch yn teithio, dylech osgoi rhannu car ag eraill y tu allan i’ch aelwyd a sicrhau eich bod yn cadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd a gadael y gweithle.

“Os ydych yn cwrdd ag aelodau o un aelwyd arall, fel sydd yn cael ei ganiatáu gan y canllawiau, mae’n rhaid i chi aros yn yr awyr agored ac yn lleol.

“Er mwyn sicrhau rhagor o eglurdeb, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori ei fod yn annhebygol y gwnewch ddal coronafirws o fwyd. Mae COVID-19 yn salwch anadlol. Mae’n annhebygol y gall gael ei drosglwyddo yn sgil dod i gysylltiad â bwyd neu becynnau bwyd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni