Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galwch heibio’n digwyddiad ymgynghori am Dwnnel Abernant i Ferthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ion 2020
Abernant Tunnel story

Ydych chi’n breswyliwr ym Merthyr Tudful sy’n teithio rhwng y fan hon ac Aberdâr ac a fyddai’n well gennych seiclo neu gerdded yno ar hyd llwybr diogel?

Os felly, efallai y bydd diddordeb gennych mewn dod i’n digwyddiad ymgynghori'r wythnos nesaf i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y ddwy dref.

Hoffem gael eich safbwyntiau am wasanaethau bysiau a rhagor o lwybrau diogel Teithio Llesol, fel ailagor Twnnel Abernant i Ferthyr ar gyfer cerdded a seiclo.

Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gweithio ynghyd gyda’r nod o wneud y daith yn haws i bobl sy’n teithio rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful ar gyfer gwaith, addysg, siopa ac adloniant.

Mae’r cynllun yn ymwneud â gwella llwybrau ‘Teithio Llesol’, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cerdded a seiclo rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd mae’r rhain wedi eu cyfyngu i saith milltir o briffordd sy’n cysylltu’r cymoedd, gyda rhai rhannau serth iawn a llawer iawn o draffig.

Mae Twnnel Abernant i Ferthyr Tudful yn 1.4 milltir o hyd ac mae’n hen dwnnel reilffordd segur a gaewyd ym 1962. Gallai’r twnnel gael ei hailagor at ddefnydd cerddwyr a seiclo, gan ddarparu taith gerdded a seiclo di-draffig ac uniongyrchol o ryw bedair milltir rhwng canol y ddwy dref, gan leihau’r daith gyfredol o ryw dair milltir.

Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhedeg o 21 Ionawr tan 18 Chwefror ac rydym yn cynnal digwyddiad ymgynghori yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful ddydd Gwener 7 Chwefror o 10am-3pm.

Bydd swyddogion yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych, a bydd cyfle i chi lenwi arolwg ar-lein neu ddefnyddio fersiwn bapur os yw’n well gennych.

Er mwyn cymryd rhan yn yr holiadur, cliciwch yma. Mae fersiynau papur ar gael oddi wrth corporate.communications@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni