Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tri thŷ tafarn ym Merthyr Tudful yn cael eu herlyn am wastraff masnachol

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Mai 2019
Prosecuted.png

Cafodd Yvonne Parfitt ei harestio ar warant a’i dwyn gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 21 Mawrth 2019. Cafodd ei chyhuddo o 3 trosedd a oedd yn torri rheol s34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yn ymwneud â’i methiant i gymryd gofal rhesymol o’i gwastraff.

Gofynnwyd i Ms Parfitt ddarparu dogfennaeth yn dangos sut yr oedd yn dyddodi ei gwastraff masnachol – gofyniad cyfreithiol ar gyfer pob perchennog busnes – yn nhafarndai Pant Cadifor, y Quarryman’s Arms a’r Morlais Tavern ond methodd ag ymateb i dri hysbysiad.

Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob perchennog busnes allu arddangos tystiolaeth ddogfennol sydd yn dangos, am gyfnod o 2 flynedd sut y mae gwastraff masnachol yn cael ei ddyddodi.

Plediodd Ms Parfitt yn euog o’r ddau gyhuddiad a chafodd ddirwy o £1200.

Dywedodd Paul Jones, Rheolwr Glanhau a Gorfodi Amgylcheddol: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymryd camau llym yn erbyn busnesau sy’n dyddodi eu gwastraff mewn modd peryglus ac anghyfreithlon drwy ofyn iddynt ddarparu dogfennaeth er mwyn profi sut y maent yn dyddodi eu gwastraff. Mae’r erlyniad hwn yn gymorth i ni dynnu sylw at bwysigrwydd contractau Gwastraff Masnachol. Cyfrifoldeb gofal cyfreithiol perchennog y busnes yw sicrhau fod gwastraff yn cael ei ddyddodi’n gyfreithiol a diogel yn unol â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a sicrhau fod y dogfennau hyn yn cael eu cadw am leiafswm o ddwy flynedd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni