Ar-lein, Mae'n arbed amser

Annog grwpiau cymunedol i wneud cais am Grant Ffos-y-fran

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Awst 2019
Merthyr Swimming Club

Mae gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol ym Merthyr Tudful hyd at yn gynnar ym mis Medi i wneud cais am gyllid o hyd at £5,000.

Mae Cynllun Grantiau Canolradd Ffos-y-fran yn cynnig grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gymorth i greu ‘economi gref, gynaliadwy ac amrywiol,’ cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd i wneud y gorau o’u potensial a chyfrannu at wneud Merthyr Tudful yn ‘lle bywiog, atyniadol, diogel a chynaliadwy.’

Mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi eu lleoli yn y fwrdeistref sirol, fod er budd preswylwyr lleol a gosod pwyslais ar faterion addysgiadol, amgylcheddol neu hamdden. Ceir grantiau ar gyfer costau refeniw/cyfalaf ac mae arian cyfatebol yn ofyniad, naill ai mewn arian neu gyfraniadau o fath arall.

Mae prosiectau diweddar a gefnogwyd yn cynnwys Clwb Dysgu Cymraeg Calfaria – a dderbyniodd £2,000 ar gyfer llogi ystafell a chostau tiwtor – grwpiau rhedeg, seiclo, nofio, triathlon a chwaraeon i’r anabl, a dderbyniodd bron i £15,000 i gynyddu cyfleoedd ledled y fwrdeistref sirol.

Sefydlwyd Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y cyd â chwmni glofaol lleol, Merthyr (South Wales) Limited, sy’n cyfrannu £1 am bob tunnell o lo sy’n cael ei werthu o safle cynllun adfer tir Ffos-y-fran. Mae dros £5m wedi cael ei ddyfarnu i amrywiaeth eang o grwpiau ac achosion ers i’r safle agor yn 2007.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Adfywiad a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn hynod falch i allu gweinyddu Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran sydd wedi cyfrannu at nifer o brosiectau da ac sy’n rhoi cyfle i sefydliadau lleol sicrhau arian na fyddai ar gael iddynt fel arall.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd ddiweddaraf o geisiadau yw Dydd Iau, 5 Medi. Am wybodaeth bellach neu ffurflen gais, cysylltwch â Chydlynydd Cronfa Buddiannau Ffos-y-fran ar 01685 727021 neu ffosyfran@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni