Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhaglen Brofi Gymunedol yn dod yn ôl i Ferthyr Tudful
- Categorïau : Press Release , Council
- 25 Chw 2021
Yn dilyn rhaglen brofi gymunedol lwyddiannus ym Merthyr Tudful ym mis Tachwedd a Rhagfyr llynedd, mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Rhaglen Brofi Gymunedol yn cael ei chynnal ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd yn cynnwys Merthyr Tudful, Pen-y-bont a RhCT o Ddydd Mercher 3 Mawrth.
Mae lleoliadau strategol, ar draws y fwrdeistref sirol wedi cael eu nodi a bydd ein timau profi yn symud o amgylch yr ardal er mwyn sicrhau ein bod yn profi cymaint o bobl ag y sydd yn bosibl. Bydd canolfannau profi wedi’u lleoli yn:
Lleoliad |
Dyddiadau |
Treharris (St Matthias) |
3-6 Mawrth |
Peiriandy Dowlais |
7-10 Mawrth |
Gurnos |
11-14 Mawrth |
Cefn CC |
15-18 Mawrth |
Peiriandy Dowlais |
19-22 Mawrth |
Gurnos |
23-26 Mawrth |
Mynwent y Crynwyr |
27-30 Mawrth |
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae achosion COVID-19 wedi bod yn lleihau’n raddol ym Merthyr Tudful ond mae’n rhaid i ni wneud pob dim ag y gallwn er mwyn cadw’r feirws o dan reolaeth.
“Yn ystod y rhaglen brofi gymunedol ddiwethaf, cafodd 32,000 o bobl eu profi. Cafodd 696 ohonynt ganlyniad positif ar gyfer Coronafeirws er nad oedd ganddynt unrhyw symptomau. Byddai’r unigolion hyn wedi gallu trosglwyddo’r feirws i sawl unigolyn eraill. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd profi a gofynnwn, unwaith yn rhagor am gefnogaeth y gymuned gyfan er mwyn sicrhau fod y rhaglen hon yr un mor llwyddiannus â’r ddiwethaf.”
Mae’n Canolfannau Profi Torfol ar gyfer preswylwyr ac unrhyw un sydd yn gweithio ym Merthyr Tudful ac nad sydd yn arddangos unrhyw symptomau o Coronafeirws. Nid oes angen i chi archebu lle.
Dylai unrhyw un sydd â symptomau, ymweld â’r uned brofi symudol sydd ar hyn o bryd wedi’i lleoli ym maes parcio Coleg Merthyr.