Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad ar gynlluniau i wneud Avenue de Clichy yn gyfeillgar i gerddwyr a seiclwyr

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Meh 2021
Avenue de Clichy consultation

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch cynlluniau i greu gwell amgylchedd wrth y fynedfa i ganol y dref drwy wneud gwelliannau i Avenue de Clichy a’r system gylchu.

Byddai’r cynnig yn gweld llwybr a rennir i gerddwyr a seiclwyr yn rhedeg ochr yn ochr â’r ffordd brysur, gan gysylltu’r pentref hamdden a busnesau â’r gyfnewidfa fysiau newydd, canol y dref a’r orsaf drenau – tra bo Taith Taf hefyd yn cael ei chysylltu â chanol y dref a’i gyfleusterau.

Byddai’r llwybr yn rhedeg o’r groesfan i gerddwyr wrth gylchfan Caedraw i’r groesfan anffurfiol yn Stryd yr Alarch, gyda gwelliannau i’r mannau croesi ill dau. Byddai’r  llwybr troed presennol yn cael ei ehangu a byddai gwrych bocs yn cael ei blannu ar y llain las.

Byddai’r gyffordd wrth y system gylchu tua’r gogledd yn cael ei haddasu gan gael gwared ar y cyfarwyddiadau “Ildiwch”; a byddai llwybr parhaus i’r traffig sy’n teithio tua’r de, gyda lôn chwith benodedig a lôn dde benodedig i’r cerbydau sy’n parhau o gwmpas y system gylchu.  

Byddai’r man lloches canolog yn cael ei estyn i wneud lle i’r newid yng ngosodiad y ffordd ac i ddarparu cyfleusterau croesi diogelach hefyd a gwella arwyddion i seiclwyr a cherddwyr.

Y cynllun yw y byddai’r llwybr yn cael ei estyn mewn camau yn y dyfodol, gyda gwelliannau i gylchfan Caedraw i ddilyn yn ddiweddarach eleni.

Mae pont newydd hefyd wedi ei chynllunio i groesi Afon Taf, gan nad yw’r bont bresennol o safon ddigon da i seiclwyr.

Er mwyn dweud eich dweud am y cynigion hyn, cymerwch ran yn yr arolwg byr canlynol sy’n rhedeg tan ganol dydd 18 Mehefin 2021.

Dolen i’r arolwg yma ac yma.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni