Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor ar flaen y gad gyda’i welliannau cyffrous i drafnidiaeth
- Categorïau : Press Release
- 12 Meh 2020
Dyfarnwyd £6.3m i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn rheoli datblygiadau trafnidiaeth cyffrous ar draws De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y prosiect Metro a thrydaneiddio bysiau a thacsis.
Mae’r Cyngor yn rheoli’r ddau gynllun ar ran Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol. Ym Merthyr Tudful, bydd yr arian yn cefnogi datblygiad gorsaf reilffordd newydd ym Mhentre-bach a gwefrydd trydan ar gyfer bysiau a thacsis yn yr orsaf fysiau newydd.
“Mae’r Cyngor yn falch iawn o fod ar flaen y gad yn cyflawni gwelliannau trafnidiaeth ar hyd a lled y rhanbarth ac mae’n gwneud hynny trwy reoli cyllid y Rhaglenni sy’n ymwneud â Gwella’r Metro a Hyrwyddo Cerbydau Allyriadau Isel Iawn,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill.
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer yr orsaf reilffordd newydd a’r cyfleuster parcio a theithio strategol ym Mhentre-bach. Mae Trafnidiaeth Cymru, ar ran y Cyngor a Llywodraeth Cymru, hefyd yn cynnal astudiaethau dichonoldeb ar seilwaith presennol y brif orsaf reilffordd sef y llinell, y platfform a’r adeilad.
“Rydyn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ganfod a datblygu cynigion trafnidiaeth newydd cyffrous a fydd yn ategu ac yn gwella’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd a’r Orsaf Fysiau newydd ym Merthyr Tudful.”
Cyhoeddodd yr Awdurdod Trafnidiaeth ddoe ei fod wedi llwyddo i gael £5m gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru tuag at gynlluniau Metro De-ddwyrain Cymru a Metro Plws, sy’n cynnwys ystod o brosiectau fel Gorsaf Pentre-bach.
Dyfarnwyd £1.3m pellach o Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddarparu seilwaith cerbydau trydan at ddefnydd y cyhoedd, tacsis a llogi preifat, ynghyd â bysiau mewn gwahanol leoliadau a hybiau trafnidiaeth ledled y rhanbarth.
Roedd Cyngor Bwrdeistref y Sir wedi gwneud cais ar ran yr Awdurdod Trafnidiaeth am y ddwy set o gyllid a bydd yn rheoli’r ddau gynllun.
Gellir gweld y manylion llawn ar wefan yr Awdurdod Trafnidiaeth yma https://bit.ly/3cWER3c ac yma https://bit.ly/2MQEmNC