Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Maw 2021
Merthyr Tydfil CBC Logo

Mae’r awdurdod wedi bod yn gweithio’n galed mewn amgylchiadau anodd iawn i sicrhau’r cynnydd isaf posib yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.

Llynedd, gwelwyd cynnydd o 4.99% ac eleni, rydym wedi llwyddo i’w gadw yn 3.55%.

Mae’r cynnydd yn golygu y bydd eiddo ‘Band D’ o £1,728.98 yn cyfateb i ychwanegiad blynyddol o £59.27 – neu £1.14 yr wythnos.

Gan fod y mwyafrif o eiddo yn y Fwrdeistref Sirol ym mandiau A i C, bydd y mwyafrif o breswylwyr yn derbyn cynnydd is.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton: “Wedi trafodaethau maith rhwng gweinyddiaeth y Cyngor â’r gwrthbleidiau, cytunwyd ar ffigwr o 3.55%.

“Mae’r Dreth Gyngor yn gymorth i dalu am y gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu ar gyfer pobl Merthyr Tudful ac yn cynnwys: addysg, gwasanaethau cymdeithasol, goleuadau’r stryd, casglu gwastraff, canolfannau ieuenctid a chwaraeon, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

“Ar ben hynny, mae’n talu am ein cyfraniad tuag at yr heddlu a diogelwch sifil, trafnidiaeth gyhoeddus, sbwriel a dyddodi gwastraff.”

Yn ychwanegol, darparodd Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor 2021/22 a fabwysiadwyd ar 6 Ionawr 2021 gymorth taliadau Treth Gyngor i’r sawl a oedd yn gymwys i wneud cais.    

“Rydym bod amser yn edifar ein bod yn gorfod gweld cynnydd yn y Dreth Gyngor ond yn anffodus, mae hyn yn anorfod yn sgil y pwysau ariannol sydd ar yr awdurdod, bob blwyddyn.”

“Rwy’n fodlon ein bod wedi cymryd pob cam posib i’w gadw i’r lefel isaf posib sydd yn caniatáu i ni ddarparu’r gwasanaethau yr ydym yn eu gwneud,” dywedodd y Cynghorydd Mytton.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r Cynghorydd Darren Roberts ac i’r Cynghorydd Julian Amos am eu cymorth wrth i ni ddod i benderfyniad ar y Dreth Gyngor.”

Am wybodaeth ar Gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, ewch i: https://www.merthyr.gov.uk/resident/council-tax/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni