Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn ymgynghori ar safle a ffafrir ar gyfer Ysgol Gatholig 3-16 oed
- Categorïau : Press Release
- 09 Tach 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgynghori â phreswylwyr, eglwysi, disgyblion, staff a chymunedau lleol ehangach ar y safle a ffafrir ar gyfer ei gynlluniau i adeiladu un ysgol Gatholig a gynorthwyir yn wirfoddol ar gyfer plant 3 i 16 oed.
Bydd adeiladu’r ysgol newydd yn golygu y bydd Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Aloysius a Ffeserasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Illtyd Sant a’r Santes Fair yn cau. Disgwylir i’r ysgol agor ar y safle newydd ym mis Medi 2023.
Cymeradwyodd y Cyngor y dylai’r pedair ysgol bresennol uno ym mis Medi 2019 a hynny yn dilyn proses ymgynghorol statudol. Y bwriad yw y bydd yr ysgolion yn uno ym Medi 2022, flwyddyn cyn y byddant yn symud i’r safle newydd. Gweler dolenni i adroddiad y Cabinet a'r atodiadau: https://bit.ly/32u4i9T a https://bit.ly/2If6R8C
Mae dau opsiwn yn cael eu cynnig ar gyfer yr adeilad:
- Byddai Opsiwn A yn golygu y byddai holl adeilad yr ysgol ar y tir i’r de o feysydd chwarae’r Greenie a chynigir rhannu un o’r meysydd chwarae cymunedol a fyddai’n cael ei wella i fod yn gyfleuster ar gyfer pob tywydd. Byddai maes parcio a man gadael a chasglu ar safle uchaf, presennol yr Esgob Hedley.
- Byddai Opsiwn B yr un fath ag Opsiwn A ond yn cynnwys meysydd glaswellt ychwanegol ar safle uchaf presennol yr Esgob Hedley yn hytrach na maes tarmacadam, aml-gwrt ar brif safle’r ysgol i’r de o’r Greenie.
Mae’r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad rhwng 9 a 30 Tachwedd. Dewch o hyd i’r dolenni a chynlluniau o’r safle yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/singlecatholicschool/
Mae darpariaeth yn cael ei gynllunio gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a hynny mewn partneriaeth ag Esgobaeth Caerdydd.
Dywedodd Archesgob Caerdydd, y Gwir Esgob George Stack y byddai’r ddarpariaeth newydd yn golygu y byddai pontio di-dor o’r blynyddoedd cynnar hyd at lefel TGAU.
“Bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa fanteisiol er mwyn darparu’r cwricwlwm newydd gan roi mantesion taith addysg ddi-dor i’n disgyblion,” ychwanegodd. “Bydd yn ein caniatau i barhau i adeiladu ar yr addysg dda sydd ar hyn o bryd yn cael ei chyflwyno gan yr ysgolion a hynny ar gampws modern.”
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Dysgu: ”Rydym yn hyderus y bydd ein hysgol newydd yn darparu’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n myfyrwyr. Rydym yn gofyn i’r gymuned ein cefnogi drwy ddewis y safle gorau ar ei gyfer.”