Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn ymgynghori ar strategaeth i wneud pobl yn iachach ac yn hapusach

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Medi 2019
Sports strategy pic

Gofynnir i breswylwyr Merthyr Tudful helpu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflawni ei nod o gael mwy o bobl yn actif wrth gymryd rhan mewn ymarfer ymgynghori.

Mae’r Cyngor wedi llunio strategaeth dair blynedd a gynlluniwyd i helpu i wella iechyd a llesiant preswylwyr lleol ac mae’n awyddus i gael safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynigion.

Mae’r strategaeth yn gosod allan cynlluniau’r awdurdod i weithio gyda’i bartneriaid – mewn chwaraeon, iechyd, addysg a’r gymuned – i wneud y mwyaf o adnoddau hamdden a chyfleoedd hamdden ledled y fwrdeistref sirol ac annog pawb i’w defnyddio.

“Rydym yn haeddiannol falch o’n treftadaeth chwaraeon ym Merthyr Tudful gyda bod y dref wedi cynhyrchu sawl pencampwr mawr dros y blynyddoedd,” dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Kevin O'Neill.

“Ond nid yw cyfranogi mewn chwaraeon yn ymwneud â bod yn gystadleuol yn unig. Yn fwy pwysig, rydym am weld preswylwyr ffit, iach a hapus sy’n cyfrannu at gymunedau ffyniannus,” ychwanegodd.

“Mae bod yn actif a datblygu sgiliau corfforol yn hyrwyddo hunan hyder sy’n arwain at fod yn llwyddiannus, nid yn unig ar y maes chwarae ond mewn bywyd hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd O’Neill fod y fwrdeistref sirol yn ffodus o gael cyfoeth o gyfleusterau chwaraeon, meysydd chwarae, parciau a gwagleoedd gwyrdd ynghyd â digon o glybiau chwaraeon sy’n arlwyo ar gyfer pob lefel o gyfranogwr.

Nod y strategaeth oedd dynodi sut gallai partneriaid gael eu cefnogi i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau cyfredol ac archwilio opsiynau ariannu i ddatblygu cyfleoedd newydd gyda sectorau eraill, fel iechyd ac addysg.

“Rydym ni hefyd yn ffodus o gael Tîm Heini Merthyr sy’n ymroddedig ac angerddol ac a fydd yn parhau i weithio’n galed i ddatblygu a chynnal diwylliant bywiog a dynamig o ran chwaraeon ledled Merthyr Tudful,” ychwanegodd.

“Rydym yn ymgynghori ar ein cynlluniau i ddarganfod a yw preswylwyr yn cytuno neu’n anghytuno â nhw, ac a ydynt yn ymwybodol o unrhyw beth y gallem ni fod wedi ei golli er mwyn annog mwy o weithgaredd corfforol.”

Bydd yr ymarferiad ymgynghori yn rhedeg o 24 Medi, 2019 tan 22 Hydref, 2019.

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein yma. Mae copïau caled ar gael hefyd yn ardaloedd derbynfa Canolfan Ddinesig Merthyr Tudful a swyddfeydd Uned 5 Pentrebach.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni