Ar-lein, Mae'n arbed amser

‘Cynllun meistr’ Cyfarthfa yn derbyn cefnogaeth oddi wrth y Cyngor

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Tach 2020
Cyfarthfa Plan meetings

Heddiw, 4 Tachwedd, rhoddodd cynghorwyr Merthyr Tudful eu cefnogaeth unfrydol i gynllun meistr i drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa a’r ardal amgylchynol yn brif atyniad i ymwelwyr ac amgueddfa yn seiliedig ar dreftadaeth ddiwydiannol fyd enwog y dref.

Mae penderfyniad y Cyngor yn dilyn 12 mis o waith tîm amlddisgyblaethol dan arweiniad y penseiri o Lundain, Ian Ritchie Architects, gan weithio’n agos â Chomisiwn Dylunio Cymru.

Roedd yn rhaid canslo lansiad cyhoeddus y cynlluniau yr wythnos hon oherwydd clo bach Covid-19 yng Nghymru. Bydd bellach yn digwydd fis Tachwedd pan ddaw’r clo i ben. Yn dilyn hyn bydd cyfres o gyfarfodydd gyda sefydliadau cymunedol a rhanddeiliaid eraill ledled y fwrdeistref sirol a’r rhanbarth.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’r ymgynghorwyr wedi cynhyrchu gweledigaeth gyffrous sydd â’r gallu i drawsnewid ffawd Merthyr Tudful.

“Nid yn unig yw hyn yn ymwneud â rhoi bywyd newydd i’r castell a’r parc, ond y mae hefyd yn ymwneud ag ymgysylltu’r dref gyfan â’i dyfodol newydd. Rwyf wrth fy modd fod hyn wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol y Cyngor i gyd,” ychwanegodd.

“Mae’r ymgynghorwyr wedi gwneud swydd ryfeddol wrth gyflenwi cynigion mor gyffrous ac amrywiol er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19.”

Mae’r cynllun 20 mlynedd yn dilyn bron 60 o gyfarfodydd ymgynghori a gweithdai a gynhaliwyd yr hydref diwethaf cyn y pandemig. Cynhaliwyd cyfarfodydd a gweithdai creadigol gyda disgyblion ac athrawon uwchradd, myfyrwyr a darlithwyr coleg, grwpiau cymunedol, swyddogion y Cyngor Bwrdeistref Sirol, swyddogion Llywodraeth Cymru a’r sefydliad cadwraeth CADW.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar astudiaeth genedlaethol ar wahân o ddeunyddiau archif sy’n berthnasol i ddatblygiad Merthyr Tudful yn y 18fed a’r 19eg ganrif fel canolfan cynhyrchu haearn o arwyddocâd byd-eang, yn ogystal â’i hanes yn yr 20fed ganrif. Bydd y canfyddiadau yn darparu llwyfan o wybodaeth a fydd yn rhoi sail i arddangosfeydd yn orielau newydd Cyfarthfa.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni