Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae’r Cyngor wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol trwy gydol blwyddyn y Pandemig
- Categorïau : Press Release
- 04 Maw 2021

Er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol sydd ar y Cyngor, yn enwedig trwy gydol y Pandemig, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu’r rheini sydd fwyaf mewn angen.
Yng nghyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ddoe er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21, amlinellodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton gyflawniadau pob un adran yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys:
- Prosesu Grantiau Busnes dros £20 miliwn i dros 1,000 o fusnesau a thalaiadau hunanynysu a gofal cymdeithasol
- darparu dros 2,000 o brydiau ysgol am ddim
- symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer yr egin ysgol Gymraeg newydd a’r ysgol gred, 3 – 16 oed
- gweithio ar y Strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonnau mewn addysg
- yn sgil Storm Dennis, sefydlu 49 cynllun adfer sydd â chyfanswm o oddeutu £8.6 miliwn er mwyn lleihau’r risg o lifogydd yn y dyfodol a diogelu eiddo
- parhau i fod yr awdurdod cynllunio lleol sydd yn perfformio orau yng Nghymru, yn ôl data Llywodraeth Cymru
- gwella rheoli gwastraff yn sylweddol, o ran targedau Adfer a Thirlenwi Llywodraeth Cymru a chyfradd adfer o 66.74% yn ystod y tri chwarter cyntaf
- cwblhau gwerth £1 miliwn o waith arwyneb ffyrdd, £350 miliwn ar uwchraddio goleuadau traffig, ffensys diogelwch, mynedfeydd ar gyfer yr anabl, gridiau gwartheg, arwyddion y priffyrdd a leinio ffyrdd a gwerth £900,000 o waith cynnal a chadw
- cadw statws Baner Werdd Parc Cyfarthfa, Parc Taf Bargoed a Mynwent Aber-fan ac ychwanegu parc Tre Tomos i’r rhestr
- cymryd rhan flaenllaw yn y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu
- derbyn £500,000 er mwyn uwchraddio mesurau rhwystro troseddau yn ward y dref gan gynnwys gwell CCTV a gwell goleuadau’r stryd
- roedd y Tîm Cynllunio Mewn Argyfwng yn bartneriaid allweddol wrth gynllunio canolfannau profi a brechu. Merthyr oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gynnal rhaglen beilot profi torfol
- gweithio amlasiantaethol â chymorth y trydydd sector er mwyn cynnig adnoddau ymarferol a chyllidebol ar gyfer y cymunedau mwyaf bregus
- annog y defnydd o dechnoleg drwy brynu iPads a sgriniau ar gyfer cartrefi gofal
- gwneud rhaglen beilot asesiad gwiriad iechyd yn gynnar yn ystod y Pandemig er mwyn deall effaith y feirws ar fusnesau
- cynorthwyo clybiau chwaraeon, mentrau cymdeithasol, gweithwyr llawrydd a busnesau bychan i wneud cais am dros £120,000 o fuddsoddiad allanol
- goruchwylio adeiladu’r gyfnewidfa fysiau newydd. Parhaodd y gwaith, yn ddi-dor yn ystod y pandemig ac agorwyd yn Ebrill 2021
- rheoli rhaglenni gwerth miliynau o bunnoedd ar ran Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRTA.)
- sicrhau dros 200 o swyddi trwy’r Tîm Cyflogadwyaeth
- bod yn gynrychiloydd Porth Kickstart a sicrhau buddsoddiad er mwyn creu 95 o swyddi â busnesau mewnol ac allanol
- cynorthwyo 38 o bobl leol i sicrhau cyfleoedd prentisiaeth mewn Uwch Weithgynhyrchu a Pheirianneg drwy Raglen Brentisiaeth Aspire
- cydweithio â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd er mwyn creu prif gynllun integerdig ar gyfer canol tref Merthyr Tudful
- sicrhau dros £1 miliwn gan Raglen Trawsffurfio Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn darparu prosiectau adfywio allweddol
- dynodiad fel Porth Darganfod allweddol yn gysylltiedig â Gweithlu’r Cymoedd, sicrhau bron i £1 miliwn i ailddatblygu’r Ganolfan ym Mharc Cyfarthfa
- lansio Cynllun Cyfarthfa, cynllun i drawsffurfio Ardal Dreftadaeth Merthyr Tudful yn ganolfan dreftadaeth ddiwydiannol o bwysigrwydd rhyngwladol
- yn sgil cynnydd yn y galw am dai a gwasanaethau digartrefedd, sicrhau bron i £1 miliwn o arian Cam 2 Covid 19 ar gyfer Tai Modiwlar, sefydlu Tîm Amlddisgyblaethol Iechyd Meddwl a Chamdrin Cyffuriau Rhanbarthol mewn hosteli, cynyddu nifer unedau Prosiect Tai yn Gyntaf o 8 i 12 a chymeradwyo nifer o ddatblygiadau tai newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mytton fod cyhoeddiad ddoe ynghylch y Setliad Terfynnol ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cadarnhau cynnydd o +4.64% ar gyfer Merthyr Tudful. Galluogodd y setliad hwn fod y Cyngor yn gallu cynnwys gofynion ychwanegol o £3.6 miliwn yn ogystal â £1.3 miliwn arall yn gysylltiedig â Covid-19 a’u bod yn cael eu cyllido gan Gronfa Galedu Llywodraeth Cymru.
Dywedodd fod gallu dynodi arbedion gwasanaeth o bron i £1 miliwn wedi galluogi fod y Dreth Gyngor yn cael ei lleihau o 4.99% i 3.55%.
“Yn ariannol, roeddem cyn hyn yn wynebu diffyg yn ein cyllideb o dros £20 miliwn ond sicrhaodd rheolaeth ariannol drylwyr fod gennym warged o bron i £3 miliwn yn 2019/20,” dywedodd y Cynghorydd Mytton.
Diolchodd i’r aelodau, y swyddogion ac i staff yr awdurdod am eu cefnogaeth yn ystod amseroedd anodd ac am ‘ddarparu gwasanaethau safonol i breswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.’