Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn amlygu’r newidiadau i drefniadau cymorth busnes
- Categorïau : Press Release
- 24 Meh 2020
Mae’r Cyngor am ddwyn sylw busnesau lleol at nifer o ddyddiadau, nodiadau atgoffa, newidiadau a gwybodaeth gyfoes sy’n ymwneud ag argyfwng y Coronafeirws.
Ar 12 Mai, estynnodd Llywodraeth y DU ei chynllun ffyrlo i redeg tan ddiwedd mis Hydref 2020. Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol tan ddiwedd mis Gorffennaf, yna bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i ganiatáu mwy o hyblygrwydd o ddechrau mis Awst.
O 1 Gorffennaf, gall cyflogwyr ddod â gweithwyr a oedd wedi’u rhoi ar ffyrlo yn ôl i’r gwaith - am unrhyw faint o amser neu unrhyw batrwm shifft - a gallant barhau i hawlio Grant y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) am eu horiau arferol heb eu gweithio. Bydd y cynllun yn cau i newydd-ddyfodiaid o 30 Mehefin.
Dyma’r dyddiadau allweddol ar gyfer newidiadau:
• 30 Mehefin 2020 - bydd cynllun ffyrlo gwreiddiol y Llywodraeth yn cau i newydd-ddyfodiaid (nodwch: er y bydd y cynllun gwreiddiol yn cau bryd hynny, y DIWRNOD DIWETHAF ar gyfer rhoi gweithiwr ar ffyrlo am y tro cyntaf oedd 10 Mehefin).
• 1 Gorffennaf - bydd ail gam y cynllun yn cychwyn. O’r dyddiad hwn, bydd y cynllun ond ar gael i dalu cyflogau’r gweithwyr a gafodd eu rhoi ar ffyrlo ar ryw bwynt yn y cyfnod cyntaf. Ar yr un pryd, bydd cyflogwyr yn gallu dod â gweithwyr ffyrlo yn ôl ar sail ran-amser, gyda’r cynllun ffyrlo’n cyfrannu hyd at 80% o’u cyflog am yr oriau arferol heb eu gweithio (yn amodol ar y cap perthnasol).
• 31 Gorffennaf - rhaid i gyflogwyr sy’n hawlio o dan y cam cyntaf fod wedi cwblhau a chyflwyno pob cais am y cyfnod hyd at 30 Mehefin.
• 1 Awst - o’r dyddiad hwn, ni fydd y cynllun bellach yn talu cyfraniadau YG y cyflogwyr na chyfraniadau pensiwn y rhai ar gyflogau ffyrlo - bydd angen i gyflogwyr dalu’r gost hon.
• 1 Medi - bydd cyfraniad y Llywodraeth yn cael ei ostwng i 70% o gyflogau, hyd at gap o £2,187.50 y mis am yr oriau nad yw’r gweithiwr yn gweithio. Rhaid i gyflogwyr wneud iawn am y gwahaniaeth o 10% er mwyn dod â thaliadau ffyrlo i 80% o gyflogau (hyd at gap o £2,500) am oriau heb eu gweithio, a bydd hefyd yn talu cyfraniadau YG a phensiwn y rhai ar gyflogau ffyrlo.
• 1 Hydref 2020 - bydd cyfraniad y Llywodraeth yn gostwng i 60% o gyflogau, hyd at gap o £1,875 y mis am yr oriau nad yw’r cyflogai’n gweithio. Rhaid i gyflogwyr wneud iawn am y gwahaniaeth o 20% i ddod â thaliadau ffyrlo i 80% o gyflogau (hyd at gap o £2,500) am yr oriau heb eu gweithio, a bydd hefyd yn talu cyfraniadau YG a phensiwn y rhai ar gyflogau ffyrlo.
Am fwy o wybodaeth am y newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, ewch i
GRANT CYFRADDAU BUSNES - DYDDIAD CAU 30 Mehefin
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddau grant i gefnogi busnesau. Mae’r grantiau hyn ar gael i fusnesau oedd wedi’u cofrestru i dalu ardrethi ar eu hadeiladau ar 20 Mawrth 2020. Nod y ddau gynllun grant oedd cael cymorth ariannol i fusnesau cymwys a sefydliadau nid-er-elw cyn gynted â phosibl i’w helpu i barhau’n hyfyw.
DIWEDDARIAD: Bydd ceisiadau am y grantiau hyn yn cau am 5pm ar 30 Mehefin. Er y bydd taliadau grant yn cael eu gwneud ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd y Cyngor yn gallu derbyn unrhyw geisiadau pellach, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
I wirio’ch cymhwysedd, ewch at wefan y Cyngor: ewch i
Canllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru
I gael y canllawiau diweddaraf ar ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel, pecynnau cymorth defnyddiol i fusnesau, arwyddion y gellir eu lawrlwytho, ac ati, ewch i https://gov.wales/coronavirus
Mae canllawiau ychwanegol i helpu cyflogwyr, gweithwyr a’r hunangyflogedig i ddeall y ffordd o weithio’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws, wedi’u rhyddhau gan Lywodraeth y DU.
Er bod hyn yn berthnasol i ranbarthau Lloegr yn unig, mae’n rhoi cipolwg da i’r modd y bydd rhaid i fusnesau addasu’u gweithle wrth ailagor.
Am fwy o fanylion, ewch I
Gweminarau Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfres o weminarau AM DDIM ar sut y gall busnesau ymateb i’r amseroedd newidiol a ddaeth yn sgil Coronafeirws Covid-19. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Pwysigrwydd Arallgyfeirio mewn Amseroedd Cythryblus a Sut i Arallgyfeirio’n Gyflym
• Adferiad a Thwf, Cynllunio Masnach ar ôl y Coronafeirws
• Cyrchu Cyllid Busnes
Gellir gweld dolenni i’r rhain yma