Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn cynnig trawsnewidiad 21ain Ganrif i’r ganolfan siopa

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Chw 2023
ST2

Mae canolfan siopa a adeiladwyd yn 1970 yn mynd i gael trawsnewidiad ar gyfer yr 21ain ganrif ar ôl cael ei brynu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Fel rhan o ‘Gynllun’ 15 mlynedd yr awdurdod, bydd Canolfan Siopa Santes Tudful yn cael gwedd newydd ac mae preswylwyr, busnesau a siopwyr yn cael eu holi am sut byddent yn hoffi ei gweld yn newid.

Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys ailwampio safle'r orsaf fysiau gwreiddiol ar y Clastir ger y ganolfan siopa a ddymchwelwyd gydag agoriad y Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd.

“Yn seiliedig ar y cynlluniau yng Nghynllun Canol y Dref, rydym yn edrych i ail ddatblygu ac ail bwrpasu'r Canolfan Siopa Santes Tudful i siwtio Merthyr Tudful yr 21ain ganrif yn well, gan wneud y mwyaf o’i photensial,” meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Rydym hefyd yn cynllunio i dynnu'r byrddau o amgylch yr hen orsaf fysiau cyn gynted â phosib, gan gyflwyno cynllun deniadol dros dro a fydd yn rhoi cyfle i ni gynllunio a pharatoi at adfywio'r ardal gyfan.”

Rydym eisiau clywed gennych chi am yr hyn yr hoffech ei weld yn y tymor hir ar y tir rhwng y gyfnewidfa fysiau newydd a’r Ganolfan Ddinesig- ardal sy’n cael ei hadnabod fel ‘ST2’ at bwrpas ymgynghoriad.

Isod mae rhestr o rai o’r syniadau a byddem yn croesawu eich syniadau arnynt ac unrhyw awgrymiadau eraill. Bydd eich safbwyntiau yn ein hysbysu ar siapio dyfodol canol y dref, a byddem wiry n gwerthfawrogi eich mewnbwn.

Yn ogystal â’r holiadur, sydd i’w weld yma, byddwn yn arddangos y cynlluniau ac yn clywed eich sylwadau yn ein ‘siop ymgynghoriad’ newydd yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful, o Chwefror 6-17, 2023.

Bydd copïau papur o’r holiadur ar gael o’r siop ac yn y Ganolfan Ddinesig.

Ailwampiwyd Canolfan Siopa Santes Tudful yn 1993 ac mae’n cynnwys dros 50 siop, yn cynnwys manwerthwyr cenedlaethol ac annibynnol. Mae hefyd yn cynnwys marchnad dan do lan staer gyda dros 30 stondin.

Ymysg y syniadau ar gyfer ST2 mae:

  • Cymysgedd o siopau, lleoliadau gwaith a chartrefi
  • Gwell cyfleusterau marchnad yn cynnwys masnachu ar y stryd a chyfleoedd i ddatblygu siopau dros dro
  • Ardaloedd cyhoeddus defnyddiol ac atyniadol
  • Mwy o leoliadau bwyd a diod o safon uchel
  • Mwy o fusnesau newydd ac annibynnol

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni