Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn adolygu strategaeth cyn wythnos Gwrth-fwlio

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Tach 2020
Anti-bullying week

Cyn y bydd yr Wythnos Gwrth-fwlio yn cael ei chynnal eleni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cadarnhau ei ymrwymiad i leihau achosion o fwlio mewn ysgolion.

Yn ddiweddar, adolygodd y Cyngor ei strategaeth gwrth-fwlio a hynny yn sgil arweiniad statudol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn herio bwlio.

Mae cynlluniau adfer pandemig Covid-19 yn gefnlen i’r strategaeth sydd hefyd yn cynnwys amcanion Llywodraeth Cymru i “ymwreiddio dull gweithio ar gyfer yr ysgol gyfan wrth ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant emosiynol.”  

Ers i’r llywodraeth leol gyhoeddi ei strategaeth gyntaf yn 2011/12:

  • cafwyd cynnydd yn nifer yr achosion a nodwyd a hynny gan fod system wydn yn ei lle
  • cafwyd cynnydd yn nifer yr achosion a nodwyd o fwlio corfforol, bwlio ar sail rhywedd a seiberfwlio
  • cafwyd cynnydd sydyn mewn digwyddiadau, gan gynnwys rhai o natur hiliol yn 2017/18 – ond ers hynny, maent wedi lleihau
  • mae’r nifer o achosion hiliol yn parhau i fod yn isel ac wedi gostwng ers 2011/12

“Mae herio bwlio ledled Merthyr Tudful yn parhau i fod yn ffocws allweddol i ni,” meddai’r Cynghorydd Lisa Mytton, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Dysgu. “Mae ysgolion yn safleoedd unigryw sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu’n unigolion egwyddorol, iach, hyderus ac uchelgeisiol.

“Fel aelodau etholedig, rydym am i’n hysgolion fod yn gyrchfannau lle y gall ein dysgwyr deimlo’n hapus a diogel. Mae pob un ohonom yn ymrwymedig i sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau eu hawliau i dderbyn addysg a chael eu trin y gyfartal.

“Byddwn yn parhau i herio bwlio mewn modd cyfrannol,” ychwanegodd. “Rydym y deall y gellir cyflawni hyn drwy ymdrin â phrif achosion ymddygiad annerbyniol a thrwy greu amgylchedd gynhwysol o gyd-barch. Yr unig ffordd y gellir cyflawni hyn yw trwy osod llesiant yn ganolog i bob dim yr ydym yn ei wneud.”  

Mae’r Wythnos Wrth-fwlio’n rhedeg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 16 i 20 Tachwedd. Mae’n cael ei threfnu gan y Gynghrair Gwrth-fwlio sy’n gynghrair o sefydliadau ac unigolion a chafodd ei sefydlu gan yr NSPCC a’r National Children's Bureau yn 2002.

Yn ôl arolwg gan yr arolygwyr addysg, Estyn, petai bob ysgol ac awdurdod lleol yn cyflwyno polisïau a gweithdrefnau clir byddai hyn yn arwain at leihad sylweddol mewn achosion o fwlio.

Mae strategaeth y Cyngor yn dangos fod y modd y mae staff yn ymdrin â bwlio mewn ysgolion yn amrywio’n fawr. Mae’n hollbwysig fod gan staff ddealltwriaeth glir o’r hyn sydd yn ‘achos o fwlio a nodir’ a bod gan yr ysgol ddiffiniad o’r hyn yw bwlio a bod yr ysgol a’r gymuned ehangach yn ei ddeall.  

Yn ôl y strategaeth, ‘gall effeithiau bwlio fod yn fyr neu’n hirdymor, yn seicolegol neu’n gymdeithasol ac yn aml, gallant arwain at dangyflawniad neu broblemau presenoldeb. Mae grwpiau penodol o ddisgyblion mewn mwy o risg i gael eu bwlio ac maent yn cynnwys:

  • disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol neu anabledd
  • disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol
  • disgyblion sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu grefyddol

Mae ymchwil yn awgrymu y bydd rhwng 20 a 50% o ddisgyblion yn cael profiad o fwlio rhywbryd neu'i gilydd yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae bwlio’n difetha bywydau gormod o ddisgyblion.’  

Ychwanegodd y Cynghorydd Mytton: “Cynhyrchwyd y canllaw statudol er mwyn darparu cyngor i sicrhau fod gwerthoedd parch, goddefgarwch a charedigrwydd yn cael eu hymwreiddio yn ein hysgolion ac yn y gymuned ehangach. Dim ond trwy gydweithio y gallwn gyflawni hyn a gwneud gwir wahaniaeth.”

Mae modd i chi weld y ddogfen strategaeth ar wefan y Cyngor yma: https://www.merthyr.gov.uk/resident/learning-in-merthyr-tydfil/well-being-and-behaviour/anti-bullying-policy/?lang=cy-GB&

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni